Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Paratoadau ar gyfer etholiad y Senedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod deddfwriaeth a threfniadau ariannol ar waith i gefnogi’r gwaith o gynnal etholiad y Senedd yn effeithiol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn Etholiadol a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer yr etholiad ym mis Mai. Mae ein Bwrdd Rheoli Etholiadol yn cefnogi Swyddogion Canlyniadau a’u timau, gan gynnwys cyfraniad yr heddlu at y gwaith o gynllunio diogelwch.
Diogelwch Ymgeiswyr
Yn ddiweddar, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhannu canllawiau wedi’u diweddaru ar ddiogelwch ymgeiswyr gyda phleidiau gwleidyddol yng Nghymru ac mae canllawiau pellach ar gael ar wefan Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) hefyd yn cynnig cyngor (Saesneg yn unig) seiberddiogelwch i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol o ran diogelu cyfrifon, dyfeisiau, a gwefannau.
Byddwn yn annog pob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd i fanteisio ar unrhyw gynnig i gael briffiad diogelwch gan yr Heddlu a’r NCSC.
Nid oes lle i aflonyddu, dychryn, cam-drin a thrais tuag at ymgeiswyr yn ein democratiaeth ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi gwaith y Jo Cox Civility Commission i fynd i’r afael ag ymddygiad bygythiol a cham-drin mewn gwleidyddiaeth. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Comisiwn ‘A Renewed Call to Action (Saesneg yn unig)’ sy’n gwneud argymhellion ar gyfer llywodraethau datganoledig, cynrychiolwyr etholedig ac ymgeiswyr.
Drwy ddeddfwriaeth ddiweddar, rydym wedi cryfhau’r drosedd o ddylanwad amhriodol yn etholiadau Cymru ac wedi sicrhau bod treuliau sy’n gysylltiedig â diogelwch yn cael eu heithrio o’r terfynau gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol.
Drwy’r cynllun peilot ar gyfer y Grant Amrywiaeth Ymgeiswyr, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Shout Out UK i gyd-lunio Canllaw Gwydnwch Ymgeiswyr i fynd i’r afael â cham-drin ac ymddygiad bygythiol. Bydd hwn ar gael erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr.
Diogelwch Etholiadau
Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, y Comisiwn Etholiadol a phartneriaid eraill ar gynllunio diogelwch etholiadol, gan gynnwys drwy’r Tasglu Amddiffyn Democratiaeth. Rwy’n croesawu’r ffaith fod amddiffyniad yr heddlu wedi’i estyn yn ddiweddar i holl Aelodau ac ymgeiswyr y Senedd drwy Operation Ford.
Mae’r Prif Gwnstabliaid yn ymgysylltu â phrif weithredwyr awdurdodau lleol ledled Cymru i fonitro a rheoli tensiynau cymunedol posibl ac i baratoi ar gyfer cynnal etholiadau yn ddiogel.
Mae swyddogion yn sefydlu strwythurau cynllunio gwydnwch cryfach o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau cydgysylltu cadarn â phartneriaid yn y DU i ddiogelu uniondeb etholiad y Senedd.
Camwybodaeth / Twyllwybodaeth
Rydym yn sicrhau mynediad at wybodaeth ddibynadwy a hygyrch am etholiadau yng Nghymru drwy’r platfform gwybodaeth etholiadol newydd a ddarperir gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Ofcom.
Dylid rhoi gwybod (Saesneg yn unig) am y cynnwys mwyaf niweidiol.
Mae gan Shout Out UK (Saesneg yn unig) adnoddau amrywiol i helpu i fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i Shout Out UK drwy ein Grant Ymgysylltu â Democratiaeth i ddarparu rhaglen hyfforddi Llythrennedd Cyfryngau yn uniongyrchol i bobl ifanc mewn tair ysgol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth camwybodaeth i randdeiliaid, sydd â’r nod o gynorthwyo arweinwyr cymunedol i helpu pobl i ystyried a yw gwybodaeth yn anghywir neu’n bwriadu achosi niwed, a beth y gellir ei wneud i leihau effaith hyn.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu canllaw ymarferol ‘Amddiffyn eich Sefydliad rhag Casineb ac Aflonyddu’ ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol. Nod y canllaw yw helpu sefydliadau i gymryd camau i’w gwneud eu hunain yn llai agored i aflonyddu, paratoi ar gyfer digwyddiadau, teilwra eu dulliau cyfathrebu, a dod o hyd i gymorth.
Gellir gofyn am gopi o’r pecyn cymorth a’r canllaw ymarfer drwy cydlyniant@llyw.cymru.
