Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym ym mlwyddyn tri o Gynllun Cyflawni pum mlynedd diweddaraf y Rhaglen Dileu TB ac rydym wedi gweld gwelliant mawr, gyda chydweithio a phartneriaeth yn greiddiol i'r cynnydd hwnnw. Mae'r ystadegau TB diweddaraf yn dal i ddangos gostyngiad hirdymor yn y buchesi sy'n cael achosion newydd o TB. Mae hyn yn galonogol ac yn dangos ein bod wedi dod yn bell ers cychwyn y Rhaglen Dileu TB yn 2008. Ond mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ac mae nifer y gwartheg sy'n cael eu difa yng Nghymru yn parhau'n uchel. Nid yw hyn yn syndod, gan fod y ffigur yn adlewyrchu'n rhannol ein defnydd strategol o offer diagnostig sy'n fwy sensitif. Mae gallu adnabod TB mewn gwartheg yn gynharach, a chyn iddo gael cyfle i ledaenu, yn naturiol o fudd yn y tymor hir. 

Yn dilyn tystiolaeth ac argymhellion y Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ynghylch lladd gwartheg sydd wedi adweithio i brawf TB ar y fferm, rydym yn parhau i weld ffermwyr yn defnyddio'r opsiwn i ohirio lladd categorïau penodol o wartheg ac osgoi gorfod eu lladd ar y fferm.  Mae ffigyrau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn dangos y gohiriwyd lladd 320 o gyfanswm o 1,126 o wartheg yn y 12 mis cyntaf ers cyflwyno'r polisi hwn. Osgowyd yr angen i ladd ar y fferm dros 28% o'r gwartheg, gan roi mwy o ddewis a hyblygrwydd i ffermwyr.  Mae yna ffermwyr, teuluoedd ffermwyr a bywoliaeth y tu ôl i bob anifail sy'n cael ei ladd a byddwn yn annog yn gryf unrhyw un sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl i gysylltu ag un o'r sefydliadau rhagorol sydd ar gael am gymorth. Er nad oes dewis weithiau ond lladd ar y fferm, rwy'n gobeithio bod yr hyblygrwydd hwn i ohirio'r lladd wedi bod o fantais.

Newid pwysig arall trwy gyngor y TAG a Bwrdd y Rhaglen a ddaeth i rym fis Ionawr eleni - oedd y cyfyngiadau am oes ar anifeiliaid sy’n cael adwaith amhendant ar ôl dehongliad safonol i brawf croen TB (Adweithydd Amhendant safonol a gliriwyd - IRs). Mae gwartheg IR a gliriwyd yn llawer mwy tebygol o gael adwaith i brawf TB yn y dyfodol nag anifeiliaid gafodd prawf clir, ac felly maent yn gronfa bosibl ar gyfer lledaenu'r clefyd. Mae cyfyngu ar symudiadau gwartheg IR i'r daliad lle cawsant eu darganfod yn lleihau'r risg y byddant yn lledaenu TB i fuchesi eraill. Mae hefyd yn rhoi dewis i'r ffermwr o ran sut mae'n delio â'r anifeiliaid hyn yn ei fuches ei hun.

Mae ein prosiectau TB sy'n cael eu trefnu gan y diwydiant yn Sir Benfro ac yn y Gogledd yn datblygu'n ffordd gydweithredol o ddileu TB ac maent wedi ennyn diddordeb o bob rhan o'r DU a thu hwnt. Mae'r prosiectau cydweithredol hyn wedi grymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb am ddileu TB a chadw’r clefyd allan o’u broydd. Rydym nawr yn manteisio ar y cyfle i bwyso a mesur ein gwaith cyn ystyried, law yn llaw â'r diwydiant, sut y gallwn adeiladu ledled Cymru ar yr hyn rydym wedi'i wneud. 

Gyda Bwrdd y Rhaglen a TAG wedi'u hintegreiddio'n llawn i'n Rhaglen Dileu TB, mae gennym y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i gryfhau ein gwaith a chymryd rhagor o gamau tuag at ein nod terfynol o Gymru heb TB.

Heddiw, mae'r Bwrdd Rhaglen Dileu TB, wedi'i lywio gan gyngor gan y TAG, wedi cyhoeddi ei bapur sefyllfa ar TB mewn gwartheg yng Nghymru. Hoffwn fynegi fy niolch i'r ddau Grŵp am eu gwaith parhaus. Mater i'r Llywodraeth newydd yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai fydd hi i ystyried y papur sefyllfa.

Mae'r llwybr tuag at Gymru heb TB yn un anodd, uchelgeisiol a hirdymor, ond mae cyfeiriad y llwybr yn glir.  Mae llwyddiant Cymru yn dibynnu ar bartneriaeth yn y pen draw: Ni all y llywodraeth ddileu TB ar ei phen ei hun. Mae gofyn i ffermwyr, milfeddygon, marchnadoedd, proseswyr, a rhanddeiliaid gwledig weithio law yn llaw â’i gilydd.  Trwy brofion strategol, bioddiogelwch, mesurau wedi'u targedu i reoli symudiadau, llywodraethu gwell a chydweithio cryf, rydym yn alinio gwyddoniaeth, polisi ac ymarfer. Bydd y rhain yn ein rhoi ar sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol – dyfodol lle mae ffermydd Cymru yn iachach, yn fwy gwydn a'u dyfodol yn fwy sicr.