Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydym yn cyhoeddi’r datganiad hwn mewn ymateb i gyhoeddiadau a wnaed yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ynghylch ynni gwynt ar y tir ac yn benodol i rannu’r adborth rydym wedi’i gael gan y sector ynni gwynt a’r sector ynni adnewyddadwy ehangach.

Mae penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn peryglu’r gwaith o ddatblygu a defnyddio ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, a hynny mewn modd difrifol. Bydd y rhain yn cael goblygiadau pellgyrhaeddol ar swyddi, buddsoddiadau, a chronfeydd buddiannau cymunedol. Bydd hefyd yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn llai abl i gwrdd â’n targedau lleihau carbon ac i gyflawni ymrwymiadau’r DU a’r UE.

Drwy ddirwyn trefn y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy i ben yn gynnar, mae hynny wedi peryglu nifer o brosiectau mawr yng Nghymru. Mae hyd yn oed y prosiectau sy’n cwrdd â meini prawf y cyfnodau gras mewn perygl o fethu â chwrdd â’r dyddiad cau newydd o ganlyniad i’r ansicrwydd ariannol a achosir gan y cyhoeddiad.

Ar raddfa lai, mae’r newidiadau arfaethedig i’r Tariffau Cyflenwi Trydan hefyd yn tanseilio cynlluniau y mae grwpiau cymunedol a chonsortia eraill yn eu cynllunio. Maent eisoes wedi buddsoddi symiau sylweddol o’u harian eu hunain mewn prosiectau er mwyn eu symud ymlaen.

Yn fwy diweddar, roedd y penderfyniad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd i wrthod 5 o’r 6 phrosiect a oedd yn rhan o ymchwiliad cyfunedig Powys, yn ddatblygiad siomedig arall. Gwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dda i wrthod argymhelliad yr Arolygwyr i gymeradwyo dwy fferm wynt a’u cysylltu â’r grid cenedlaethol. Yn rhyfedd ddigon, roedd hynny’n golygu nad oedd modd i’r un prosiect a gymeradwywyd allforio’r ynni y byddai’n ei gynhyrchu.


Mae’r datblygiadau hyn, ynghyd â’r ansicrwydd sydd ohoni ynghylch caniatáu i brosiectau gwynt ar y tir fanteisio ar Gontractau Gwahaniaeth yn y dyfodol, yn mynd i gael goblygiadau pellgyrhaeddol o safbwynt buddsoddiad a chyflogaeth gan ddatblygwyr ynni gwynt ar y tir a’u cadwyn gyflenwi yng Nghymru, yn enwedig felly yn yr ardaloedd gwledig lle mae prosiectau o’r fath yn cael eu datblygu. Bydd hyn hefyd yn gwneud niwed mawr i enw da’r DU o safbwynt twf gwyrdd a datgarboneiddio.  

Mae trefn gyllido gadarn yn hanfodol er mwyn rhoi’r hyder i fuddsoddwyr gefnogi ynni gwynt ar y tir. Y math hwnnw o ynni adnewyddadwy yw’r un lleiaf costus sy’n cael ei gynhyrchu ar raddfa fawr ar hyn o bryd. Ymhen ychydig flynyddoedd, bydd y dull hwn o gynhyrchu ynni yn fasnachol hyfyw. Drwy adeiladu ar y llwyddiant hwn a dod yn hunangynhaliol, bydd modd sicrhau cyn lleied o gost â phosibl i bobl sy’n talu biliau ynni. Yn ddiweddar, gwnaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU amcangyfrif y gallai’r economi fod ar ei hennill rhwng £100 biliwn a £200 biliwn pe baem yn gweithredu’n gynnar yn hyn o beth. Mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod hynny a chynnal trafodaeth agored gyda’r diwydiant ynni adnewyddadwy a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod modd cyrraedd y nod o safbwynt ynni gwynt ar y tir, sef sicrhau nad yw’n dibynnu ar gymorthdaliadau a’i fod yn  rhoi’r gwerth mwyaf am arian i ddefnyddwyr ynni yn y DU.

Fodd bynnag, mae yna hefyd risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a fydd yn parhau i effeithio ar bobl sydd ar incwm isel. Gallai ymyriadau polisi gael effaith anghymesur arnynt hwy ac nid oes ganddynt rwyd ddiogelwch ar ffurf adnoddau a fydd yn lliniaru effeithiau uniongyrchol y newid yn yr hinsawdd.  

Felly mae’n hanfodol, cyn gwneud penderfyniadau ar y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy a’r Contractau Gwahaniaeth, bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd yn rhoi ystyriaeth lawn i safbwyntiau Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n datblygu’r prosiectau. Mae Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n datblygu’r prosiectau wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau gwynt naturiol sydd ar gael yng Nghymru i ddatgarboneiddio ein cyflenwad trydan a hynny am y gost isaf i’r defnyddwyr. Hefyd, bydd yn ysgogi buddsoddiad sylweddol mewn busnes ac yng nghymunedau Cymru.

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ymgynghori â’r Gweinyddiaethau Datganoledig gan gynrychioli’r bobl mewn modd teg a phriodol wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio’n anghymesur ar Gymru.  

Felly rydym wedi ategu ac ailadrodd  ein cais i Lywodraeth y DU gydweithio’n llawn â Llywodraeth Cymru wrth bennu dulliau priodol o gefnogi ynni gwynt ar y tir a thechnolegau carbon isel eraill - yn benodol yng nghyswllt Contractau Gwahaniaeth. Mae hefyd yn hanfodol sicrhau bod cefnogaeth ar gael i brosiectau i gynhyrchu ynni’n lleol, nad ydynt ar raddfa sy’n gallu cystadlu â phrosiectau mawr. Rhaid cofio bod prosiectau o’r fath yn lleihau’r galw am drydan ac yn sicrhau manteision yn lleol. Mae dod o hyd i’r dull cywir yn hanfodol i sicrhau  bod gan bobl hyder yn y camau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd wrth fynd ati i gyflenwi dull fforddiadwy o newid i ynni carbon isel.