Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rhoddwyd cryn dipyn o sylw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ymchwiliadau i achosion hanesyddol o gam-drin plant. Mae achosion o'r fath yn ein hatgoffa bod yn rhaid i ni fod ar ein gwyliadwriaeth yn gyson er mwyn amddiffyn yr aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Thema gyffredin yn yr achosion dan sylw oedd y ffaith nad oedd pobl yn gwrando ar y plant, nac yn eu credu.  Nid oes modd i ni newid y gorffennol, ond mae gwersi y gallwn eu dysgu.

Dros 10 mlynedd yn ôl cynhaliwyd ymchwiliad Syr Ronald Waterhouse i achosion o gam-drin plant yn y gogledd. Cafodd ei adroddiad ddylanwad ar y pwyslais yr ydym yn ei roi ar eiriolaeth bellach fel ffordd o helpu i ddiogelu ein plant a sicrhau na all digwyddiadau'r gorffennol gael eu hailadrodd.

Nid oes modd i ni orbwysleisio pwysigrwydd eiriolaeth er mwyn sicrhau ein bod yn gwrando ar ein plant a'n pobl ifanc pan fyddant yn dweud bod rhywbeth o'i le, pan fo angen help arnynt, pan fo penderfyniadau pwysig sy'n effeithio arnynt yn cael eu gwneud a bod ganddynt rywbeth i'w ddweud am y mater, a phan fo angen rhywun i’w cefnogi.  

Mae gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, pobl sy'n gadael gofal a phlant mewn angen.  Rhaid i'r ddarpariaeth hon fod yn gwbl ganolog yn nhrefniadau awdurdodau lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Yn ogystal â hynny, rhaid i awdurdodau lleol hefyd fod yn hyderus bod ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn ddigon da er mwyn sicrhau bod y trefniadau diogelu yn effeithiol, a bod modd i blant a phobl ifanc gyrraedd at y gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu.

Rydym yn gwybod bod arferion ardderchog mewn sawl ardal yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ambell enghraifft wedi codi o ddryswch ynghylch cyfrifoldeb awdurdodau lleol mewn perthynas ag eiriolaeth ar gyfer y grwpiau penodol hyn o blant a phobl ifanc, ac mae hynny'n destun pryder mawr i ni. Er mwyn sicrhau bod pawb yn deall, mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i ddweud beth yw'r disgwyliadau o ran trefniadau darparu gwasanaethau eirioli proffesiynol, annibynnol. 

Yn ei adolygiad o wasanaethau eirioli proffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc cymwys yn y gwasanaethau cymdeithasol, canfu Comisiynydd Plant Cymru bod mynediad at wasanaethau eirioli, ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth ohono, yn anghyson ar draws Cymru. Roedd hefyd yn feirniadol iawn o drefniadau comisiynu ar gyfer eiriolaeth yn y sector.  

Ym mis Mehefin 2012, cyhoeddwyd ein hymateb i adolygiad y Comisiynydd yn gosod y camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd yn erbyn pob un o'r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yna cyhoeddwyd y newyddion diweddaraf ynghylch y cynnydd ym mis Chwefror 2013, ynghyd â Datganiad er mwyn sicrhau bod Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Ymrwymiad mawr ar ein rhan ni oedd sefydlu Grŵp Arbenigol Gweinidogol ar Eiriolaeth a Grŵp Arbenigol Pobl Ifanc ar Eiriolaeth er mwyn ystyried y materion a godwyd gan y Comisiynydd, ac i ddarparu cyngor ac argymhellion ar ffordd ymlaen.

Rydym wedi gofyn i'r Grwpiau Arbenigol ddarparu argymhellion ynghylch:

  • Comisiynu a darparu gwasanaethau eirioli
  • Arolygu a rheoleiddio eiriolwyr/gwasanaethau eirioli 
  • Hyfforddiant ar gyfer eiriolwyr proffesiynol annibynnol
  • Comisiynu eiriolaeth ar draws sectorau h.y. gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg
  • Codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth ynghylch eiriolaeth ar lefel genedlaethol a lleol
  • Darparu gwasanaethau eirioli i grwpiau arbennig o blant a phobl ifanc, fel plant ifanc iawn neu blant ag anableddau dysgu, corfforol a meddyliol.
  • Darparu gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc o rannau eraill o'r DU ond sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a'r rhai o Gymru sy'n derbyn gofal yn rhywle arall.

Rydym yn cwrdd yn rheolaidd gyda Dr Mike Shooter, Cadeirydd y Grŵp Arbenigol, i drafod y cynnydd hyd yma. Mae ymrwymiad amlwg i gydweithio gyda ni er mwyn cael atebion posib i'r materion uchod, ac mae hynny’n galonogol.  Yn ddiweddar darparodd y Grwpiau Arbenigol adroddiad ac argymhellion ar gomisiynu a darparu gwasanaethau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc, pobl sy'n gadael gofal a phlant mewn angen yng Nghymru.  Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymateb i’r argymhellion hynny i'r Aelodau yn y man.

Mae'n bwysig i ni aros am ganfyddiadau'r Grwpiau Arbenigol ac ystyried unrhyw argymhellion cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau pellach. Yn y cyfamser, rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Er mwyn i ni fod yn hyderus bod hyn yn digwydd, rydym wedi comisiynu gwaith a fydd yn cynnwys archwilio a dadansoddi gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan awdurdodau lleol yn erbyn y canllawiau sy'n bodoli, dadansoddiad cost a budd, a chwilio am arferion da y gellid eu rhannu. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn bwydo i mewn i gyngor ac argymhellion y Grwpiau Arbenigol.

Bydd y Comisiynydd Plant hefyd yn gwerthuso cynnydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn erbyn yr argymhellion perthnasol yn ei adolygiad, ac fe fydd gennym ddiddordeb mawr yn ei ganfyddiadau.

Hefyd, rydym yn falch o’ch hysbysu y bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cynnal arolwg cenedlaethol ar ddechrau 2014. Bydd yn edrych ar gynlluniau gofal a diogelu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal, sy’n ymddwyn mewn ffordd agored i niwed neu beryglus. Bydd yr arolwg cenedlaethol yn ystyried a yw awdurdodau lleol yn hyrwyddo dulliau gweithredu ar sail hawliau ac a yw llais y plentyn, sy’n ganolog ar gyfer cynllunio gofal da, yn cael ei glywed a’i gymryd i ystyriaeth, a ble mae modd cael cymorth priodol gan gynnwys gwasanaethau eirioli.

Mae Eiriolaeth ar gyfer grwpiau agored i niwed yn fater pwysig iawn i’r ddau ohonom ac fe fyddwn yn parhau i roi arweiniad, cyfeiriad a chymorth i awdurdodau lleol.  Rydym wedi gwrando ar y sylwadau ac ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd o sawl cyfeiriad ynghylch swyddogaeth bwysig gwasanaethau eirioli a'r angen iddynt fod ar gael yn ehangach na'r hyn a welir ar hyn o bryd.

Yn ystod haf 2013, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu ei bwriad i gyflwyno gwelliannau i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) er mwyn ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer eiriolaeth statudol. Roedd y gwelliannau hyn yn cadarnhau'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus a’r rhai sy'n mynd drwy gyfnod anodd yn cael cymorth i wneud penderfyniadau, a bod ganddynt lais cryf a rheolaeth dros eu bywydau.

Nid oedd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn teimlo bod modd cefnogi’r gwelliannau hyn wrth graffu ar y Bil yn ystod cam 2. Llwyddodd y Dirprwy Weinidog i gyflwyno gwelliant arall yn ystod cam 3 ar y mater pwysig hwn, a gyhoeddwyd ar 15 Ionawr. Rydym yn gobeithio y gall y ddarpariaeth bwysig hon fod yn rhan o’r Bil pan fydd yn cael Cydsyniad Brenhinol. Gellir gweld y gwelliant a gyhoeddwyd ar:
http://www.senedd.assemblywales.org/documents/s23140/Notice of Amendments 15 January 2014.pdf

Rydym yn gweithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'r Grwpiau Arbenigol Gweinidogol ar Eiriolaeth er mwyn sicrhau eu bod yn chwarae rhan yn y gwaith o lunio polisi yn y maes hwn yn y dyfodol, fel bod cysondeb o ran egwyddorion darpariaeth.  

Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau er mwyn sicrhau bod y cynnydd i’w weld yn glir ac yn dryloyw.