Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym mewn cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen, un sy’n newid o awr i awr, ac mae gofyn i lywodraethau ym mhob rhan o’r byd wneud penderfyniadau yn gyflym. Rydym yn cydnabod y gofid a’r pryder a achoswyd gan yr ansicrwydd am arholiadau’r haf. Heddiw fe wnes i gyfarfod â Chymwysterau Cymru a CBAC i ystyried opsiynau sydd er budd pennaf ein dysgwyr. Rydym yn cydnabod nad oes unrhyw ddewisiadau hawdd, ond rydym yn gytûn mai’r ffordd orau ymlaen yw peidio â pharhau gydag arholiadau’r haf. Er mwyn cydnabod eu gwaith, dyfernir gradd deg i’r dysgwyr a oedd i fod i sefyll arholiadau TGAU a Lefel A yn ystod yr haf, gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael. Byddwn yn gweithio gyda’r sector i gyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan, ond roeddem am roi’r sicrwydd hwn ar y cyfle cyntaf posib. Ni fyddwn ychwaith yn defnyddio’r canlyniadau i gyhoeddi deilliannau mesurau perfformiad yn 2020.