Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn falch o gyhoeddi datganiad ar y cyd yn dilyn fy nghyfarfod ag Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Gyllid, y Cyfansoddiad a’r Economi John Swinney MSP a Gweinidog Gogledd Iwerddon dros Gyllid a Phersonél Arlene Foster MLA.   Mae’r datganiad y cytunwyd arno ar y cyd â Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y DU i egluro sut y bydd mesurau penodol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Haf yn gweithredu yn y Tiriogaethau Datganoledig.

Mae’r datganiad hefyd yn galw am ymgysylltiad cynnar gan Lywodraeth y DU ar oblygiadau’r Adolygiad o Wariant ar gyfer y Gweinyddiaethau Datganoledig. Cafwyd cytundeb ar y cyd hefyd ar gyfer cymhwyso fformiwla Barnett yn gywir er mwyn sicrhau bod y Gweinyddiaethau Datganoledig yn cael eu cyfran deg o gyllid canlyniadol oddi wrth fuddsoddiad mewn seilwaith yn Lloegr, gan gynnwys yr hyn sy’n ymwneud ag HS2.  

DATGANIAD AR Y CYD

Heddiw, dydd Iau 6 Awst, cyfarfu John Swinney MSP, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cyfansoddiad a’r Economi (yr Alban), Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Cymru) ac Arlene Foster MLA, y Gweinidog Cyllid a Phersonél (Gogledd Iwerddon) yng Nghaeredin i drafod materion o fuddiant ariannol cyffredin i’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Roedd yr agenda yn cynnwys datblygiadau cyfansoddiadol, buddsoddi mewn seilwaith a gweithio gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i Gyllideb yr Haf ac yn y cyfnod cyn yr Adolygiad o Wariant.  

Cyllideb yr Haf 2015

Mae’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn siomedig ynghylch y diffyg cyfathrebu ac ymgysylltu gan Lywodraeth y DU ynghylch ei chyhoeddiadau cyllidol diweddar, yn enwedig mewn perthynas â’r toriadau yn ystod y flwyddyn a gyhoeddwyd ar 4 Mehefin o ganlyniad i gynlluniau cyni cyllidol parhaus Llywodraeth y DU a’r mesurau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Haf y Canghellor ar 8 Gorffennaf. Cytunwyd bod y toriadau’n rhy ddwfn ac yn rhy gyflym. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw rybudd ymlaen llaw nac ystyriaeth o’r goblygiadau i’r Gweinyddiaethau Datganoledig.  

Er bod y Gweinidogion Cyllid yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i ymgysylltu ar fesurau penodol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Haf, fel defnyddio’r dreth gerbydau i fuddsoddi mewn ffyrdd, roeddent yn cytuno bod angen eglurhad ar frys ynghylch sut y bydd y mentrau hyn yn cael eu gweithredu yn y tiriogaethau Datganoledig, gan gynnwys yr Ardoll Prentisiaethau arfaethedig.

Yr Adolygiad o Wariant 2015

Nododd y Gweinyddiaethau Datganoledig nad oedd y dyddiad arfaethedig ar gyfer canlyniad yr Adolygiad o Wariant, sef 25 Tachwedd, yn rhoi llawer o amser iddynt osod eu cyllidebau eu hunain cyn dechrau 2016-17, gyda sgil-effeithiau negyddol posibl i bartneriaid darparu. Felly, galwyd ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu mor gynnar â phosibl yn ystod proses yr Adolygiad o Wariant ar oblygiadau’r setliadau ariannu tebygol i’r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Cynigiodd y Gweinidogion Cyllid, fel rhan o’r Adolygiad o Wariant, y dylid diweddaru’r trefniadau cyllidol rhynglywodraethol. Diweddarwyd y Datganiad Polisi Ariannu ddiwethaf yn 2010; mae newidiadau polisi sylweddol wedi bod ers hynny, gan gynnwys datganoli trethi a phwerau benthyca.

Nododd y Gweinidogion Cyllid hefyd y byddent yn disgwyl i Drysorlys EM gymhwyso fformiwla Barnett mewn ffordd deg, gyson a chywir, gan helpu i sicrhau bod cyllidebau’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn cael eu cyfran deg o gyllid canlyniadol o wariant cymharol yn Lloegr. Dylai hyn gynnwys buddsoddi mewn seilwaith mewn perthynas â HS2.

Yn achos Llywodraeth Cymru, bydd angen yn benodol i fanylu’r drefn cyllid gwaelodol a addawyd gan Lywodraeth y DU.  

Materion Cyfansoddiadol

Trafododd y Gweinidogion Cyllid nifer o faterion o gyd-fuddiant, gan gynnwys graddfa ac amseru datganoli cyllidol pellach i Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, a chytunwyd i gadw mewn cysylltiad rheolaidd ar lefel Weinidogol a swyddogion i rannu profiadau a sicrhau dull gweithredu cyson.

Twf Economaidd Cynaliadwy

Hefyd, trafododd y Gweinidogion Cyllid bwysigrwydd cynnal buddsoddiad mewn seilwaith hanfodol yn wyneb toriadau ariannol, cynnal a datblygu capasiti economaidd, cynhyrchiant a safonau byw. Trafododd y Gweinidogion Cyllid y pwysau cynyddol ar y sector amaethyddol.

Cyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid

Cynhaliwyd y Cyfarfod Pedairochrog Cyllid diwethaf ym mis Tachwedd 2013 a chytunodd y Gweinidogion Cyllid ei bod yn bwysig cynnal Cyfarfod Pedairochrog arall cyn yr Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd. Cytunodd y Gweinyddiaethau Datganoledig i ofyn am gyfarfod cynnar gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, gyda’r bwriad o drafod y materion sy’n codi cyn yr Adolygiad o Wariant.

6 Awst 2015