Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd ymosodiad lluoedd Rwsia ar Wcráin yn weithred o ryfel heb reswm.

Mae’r golygfeydd treisgar dros yr wythnos ddiwethaf wedi golygu bod degau o filoedd o bobl Wcráin wedi colli eu cartref, gan nodi dechrau'r hyn a allai fod yn argyfwng dyngarol mwyaf ein cyfandir ers degawdau.

Rydym yn dangos ein cefnogaeth i bobl Wcráin sy’n gwrthsefyll yn ddewr yr ymosodiad hwn ar eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a’u hawl i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a dyngarol i Wcráin, a fydd yn helpu i ddarparu cymorth hanfodol i lawer o bobl sydd mewn gwir angen. Mae’r trafodaethau’n parhau i benderfynu sut i sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen mor gyflym â phosibl. Byddwn hefyd yn asesu pa gyfarpar meddygol dros ben y gellid ei ddarparu mewn modd defnyddiol.

A ninnau yn Genedl Noddfa, rydym yn barod i groesawu’r bobl sydd angen gadael neu sydd eisiau gadael Wcráin ar hyn o bryd. Byddwn yn cynnal trafodaethau brys yfory gydag arweinwyr awdurdodau lleol i sicrhau bod paratoadau yn eu lle i groesawu’r ffoaduriaid hyn. Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwydnwch a’u trugaredd.

Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU i annog Llywodraeth y DU i gryfhau’r trefniadau sydd ganddi ar waith er mwyn galluogi dinasyddion Wcráin i ddod i’r DU. Mae hi’n hollbwysig eu bod yn gallu ceisio noddfa yma – yn union fel y gallant mewn gwledydd Ewropeaidd eraill – yn gyflym ac yn ddiogel, gyda chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl. Mae rhwymedigaethau moesegol a rhai cyfreithiol rhyngwladol ar y DU i gynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid 1951, Confensiwn yr oeddem yn un o’r llofnodwyr a’i sefydlodd. Rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod ei dyletswydd i alluogi pobl i geisio diogelwch mewn sefyllfaoedd fel y rhai yr ydym yn eu gweld yn awr.

Rwyf wedi gofyn i Brif Weinidog y DU sicrhau ffyrdd syml, cyflym, diogel a chyfreithiol o gael noddfa yn y DU, a hynny ar frys, gan ddileu’r gofynion biometrig sy’n creu rhwystr biwrocrataidd sydd bron yn amhosibl i’w oresgyn.

Rwy’n deall bod pawb yn y wlad hon yn awyddus i wneud popeth a allwn i helpu pobl Wcráin. Rwy’n annog unrhyw un sy’n gallu helpu i ystyried gwneud cyfraniad ariannol i British Red Cross, UNICEF UK neu UNHCR UK, yn hytrach na chyfrannu nwyddau.