Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw bod holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi cyrraedd eu targedau ariannol statudol ar gyfer 2011-12. Rwy’n llongyfarch y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG am y llwyddiant arbennig hwn o ystyried y pwysau ariannol sydd wedi bod ar GIG Cymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Maen nhw wedi sicrhau cydbwysedd ariannol ochr yn ochr â gwelliant a chynhaliaeth cyffredinol yn erbyn blaenoriaethau allweddol.

Mae’r ffigurau cychwynnol yn dangos bod holl sefydliadau’r GIG wedi cyrraedd eu targedau ariannol yn 2011-12, gyda swm bach o £0.5 miliwn dros ben. Bydd y ffigurau wedi’u harchwilio i gadarnhau’r sefyllfa ariannol ar gael ym mis Mehefin.

Fis Hydref y llynedd, dywedais mai rheolwyr y GIG fyddai’n atebol am reoli ariannol yn eu sefydliadau, gyda chamau cryf yn cael eu cymryd pe na bai targedau ariannol yn cael eu cyrraedd.

Er mwyn rhoi terfyn ar ddibyniaeth ar gymorth ariannol diwedd blwyddyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru £145 miliwn ychwanegol i’r GIG ym mis Hydref, gan rybuddio na fyddai cymorth ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol.

Yn ogystal â chyflawni’r gyllideb, mae sefydliadau’r GIG hefyd wedi llwyddo i arbed £290 miliwn yn ystod y flwyddyn. Maen nhw wedi llwyddo i wneud hyn gan gyflawni perfformiad clinigol, fel trin dioddefwyr strôc yn gynt a lleihau achosion o aildderbyn cleifion brys i’r ysbyty.

Nid oedd am ddigwydd ar chwarae bach ac rydyn ni wedi caniatáu i dri o’r saith Bwrdd Iechyd Lleol (Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys) ddwyn canran fechan o gyllid y flwyddyn nesaf ymlaen i helpu i gyrraedd eu targedau. Dim ond 0.2 y cant o gyllideb y GIG sy’n cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy’n falch o ddweud bod y ddysgl yn wastad yn 2011-12.

Fel amod ar fod yn hyblyg, mae fy swyddogion wedi comisiynu adolygiad ariannol allanol.