Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Datganiad Cenhadaeth Sector yr Amgylchedd Adeiledig Llywodraeth Cymru, sy'n nodi ein gweledigaeth strategol ar gyfer sector adeiladu gwydn, arloesol a chymdeithasol gyfrifol yng Nghymru.

Mae adeiladu yn sector sylfaenol sy'n sail i ddarparu seilwaith hanfodol, tai, gwasanaethau cyhoeddus a datblygu economaidd. Mae'n ganolog i'n huchelgais ar gyfer Cymru wyrddach, decach a mwy ffyniannus, ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi cadwyni cyflenwi lleol, creu swyddi, a darparu gwerth cymdeithasol.

Fel rhan o'n hymrwymiad i foderneiddio'r sector, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Digidol ar gyfer Adeiladu, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) a'r sector. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu blaenoriaethau allweddol i helpu i sbarduno cynhyrchiant, gwella'r broses o gyflawni prosiectau, a chefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau sy'n barod at y dyfodol ar draws y sector.

Rydym yn parhau i hyrwyddo'r defnydd o Gyfrifon Banc Prosiectau (PBAs) i sicrhau taliadau teg a phrydlon ar draws cadwyni cyflenwi adeiladu'r sector cyhoeddus. Mae tîm Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynyddu'r broses o fabwysiadu canllawiau wedi'u diweddaru. Mae'r polisi hwn yn cefnogi busnesau bach a chanolig trwy wella llif arian, lleihau risg, a hyrwyddo arferion cyflogaeth moesegol yn unol â'n hegwyddorion caffael.

Er mwyn cefnogi gwaith cynllunio a buddsoddi yn y diwydiant, mae CEW yn gweithio gyda rhanddeiliaid i wella mynediad at biblinell flaengar o gontractau, yr wyf yn gwybod sy'n flaenoriaeth yn ôl yr adborth gan y sector. Bydd y biblinell hon yn dangos cyfleoedd adeiladu sector cyhoeddus sydd ar ddod, gan alluogi busnesau i baratoi ac ymgysylltu'n gynnar. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i dryloywder a chydweithredu â phartneriaid yn y diwydiant.

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn cyflwyno dyletswydd statudol ar awdurdodau contractio i gyflawni prosesau caffael mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol. Mae hyn yn cynnwys gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol trwy gontractau adeiladu. Rhaid i gyrff cyhoeddus nawr geisio consensws neu gyfaddawdu gydag undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff wrth osod amcanion llesiant a gwneud penderfyniadau strategol. Mae'r ddyletswydd hon yn cryfhau rôl gweithwyr wrth lywio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn sicrhau bod caffael ym maes adeiladu yn cyfrannu'n ystyrlon at waith teg a chynaliadwyedd.

Mae'r Datganiad Cenhadaeth hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i sector amgylchedd adeiledig sy'n darparu gwerth i Gymru – yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda CEW i ymgysylltu â phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i weithredu'r blaenoriaethau hyn ac adeiladu dyfodol cryfach i Gymru.