Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod datblygu Cynllun Gweithredu HIV a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â'r feirws yn ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae'n arbennig o briodol gwneud y datganiad cynnydd blynyddol cyntaf hwn ynglŷn â'r Cynllun Gweithredu HIV ar yr un diwrnod y mae'r Senedd yn nodi Diwrnod AIDS y Byd.

Ar 7 Mawrth eleni, lansiwyd y Cynllun Gweithredu HIV sy’n cynnwys 30 o gamau gweithredu i geisio cyflawni nod Sefydliad Iechyd y Byd o roi diwedd ar achosion newydd o HIV erbyn 2030. Cafodd y Cynllun tair blynedd o hyd ei lunio ar y cyd â phartneriaid o'r GIG, y sectorau gwirfoddol a chymunedol ac, yn hollbwysig, bobl sy'n byw gyda HIV. Mae'r dull hwn o gydweithio wedi parhau wrth inni roi'r Cynllun ar waith. Hoffwn ddiolch i bartneriaid allweddol, yn arbennig y byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a Llwybr Carlam Cymru am eu cyfraniad gwerthfawr sy'n golygu bod nifer o'r 30 o'r camau gweithredu eisoes wedi'u cyflawni.

Mae llawer o'r gwaith o weithredu'r Cynllun wedi’i wneud gan bum grŵp yn y ffrydiau gwaith canlynol: Profi ac Atal, Hyfforddiant ac Addysg, Cymorth gan Gymheiriaid, sefydlu Llwybr Carlam Cymru, a Mesur Llwyddiant. Ers mis Mai, mae'r rhain wedi cyfarfod yn rheolaidd ac maen nhw'n adrodd i Grŵp Goruchwylio Gweithredu y Cynllun Gweithredu HIV.

Ers lansio'r Cynllun wyth mis yn ôl, mae cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud. Hoffwn dynnu sylw at rai o'r camau allweddol sydd eisoes wedi'u cyflawni ac sy'n cael effaith drawsnewidiol ar y ffordd rydym yn ymdrin â HIV yng Nghymru:

  • Rydym wedi sicrhau bod Cymru yn Genedl Llwybr Carlam sy'n golygu mai Cymru yw'r drydedd Genedl Llwybr Carlam yn y byd, ochr yn ochr â'r Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Caiff Llwybr Carlam Cymru, sef rhwydwaith cydweithredol newydd, ei gynnal gan Pride Cymru. 
  • Mae tair clymblaid Llwybr Carlam arall wedi'u sefydlu sef Casnewydd, Abertawe a Gogledd Cymru. Mae pob un yn cynnwys gweithwyr iechyd, cynghorau lleol, academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a phobl sy'n byw gyda HIV, sydd wedi'u huno gan y dyhead i roi diwedd ar achosion newydd o HIV yng Nghymru. Ar 20 Tachwedd, ymunodd Casnewydd yn swyddogol fel yr ail Ddinas Llwybr Carlam yng Nghymru, gan wasanaethu ardal gyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
  • O dan arweiniad cydweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru‌, mae Wythnos Profi HIV Cymru a lansiwyd yr wythnos diwethaf yn hyrwyddo pwysigrwydd profi a gwella mynediad. Mae cael prawf yn golygu bod y rhai sydd angen triniaethau gwrth-retrofeirysol, yn gallu cael gafael arnynt er mwyn byw bywyd iachach yn ogystal â pheidio â throsglwyddo'r feirws i eraill. Mae dangosyddion cychwynnol yn dangos bod yr ymgyrch wedi dod i gysylltiad â mwy o bobl nag erioed o'r blaen. Edrychaf ymlaen at gael crynodeb a dadansoddiad o'r ymgyrch maes o law.
  • Mae'r gwasanaeth profi ar-lein am ddim a sefydlwyd yn ystod y pandemig ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV yn parhau i wneud gwahaniaeth gyda'r nifer sy'n elwa ar y gwasanaeth yn cynyddu'n flynyddol. Mae'r gwasanaeth yn helpu nifer o unigolion a fyddai fel arall yn amharod i fynd i glinigau.
  • Mae pob bwrdd iechyd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â diagnosis hwyr o HIV. O dan gadeiryddiaeth uwch-ymgynghorydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'r byrddau iechyd yn bwriadu cyfarfod bob chwe mis i ystyried pob achos unigol o ddiagnosis hwyr yng Nghymru, ceisio deall pam y maen nhw'n digwydd, a thargedu adnoddau ar y strategaethau gorau i roi diwedd ar drosglwyddiadau pellach. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp hwn ym mis Hydref ac ystyriwyd achosion o ddiagnosis hwyr a ddaeth i'r amlwg yn ystod hanner cyntaf 2022. Bydd y grŵp hwn yn adrodd i'r Grŵp Goruchwylio Gweithredu ynghylch yr hyn a ddysgwyd.

Rydym wedi sicrhau dechrau ardderchog tuag at gyflawni'r 30 o gamau gweithredu. Gyda chydweithrediad parhaus ein rhanddeiliaid a'n partneriaid allweddol, gallwn sicrhau y byddwn yn cyflawni ein nod o roi diwedd ar achosion newydd o HIV erbyn 2030.