Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru. Mae gwaith sylweddol o gasglu tystiolaeth a dadansoddi wedi’i gwblhau a diolchaf i’r Comisiwn am ystyried y materion trafnidiaeth sy’n wynebu’r gogledd mor fanwl.

Cefais y cyfle i gyfarfod â’r Arglwydd Burns a’r Comisiynwyr pan oeddent ym Mangor ac yn sgil y gwaith hwn, roedd yn bleser gweld eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad tuag at sicrhau newid gwirioneddol.

Mae Datganiad Cynnydd y Comisiwn yn nodi ei safbwyntiau sy’n datblygu ac yn nodi lle y mae’r cyfleoedd ar gyfer gwell system drafnidiaeth, gan ganolbwyntio ar lle y gallwn wneud pethau’n haws i bawb deithio yn fwy cynaliadwy.

Rydyn ni’n clywed llawer o drafodaethau ynghylch llwybrau a siwrneiau car sy’n hir o ran pellter. Fodd bynnag, mae dadansoddiad y Comisiwn yn dangos bod mwyafrif y siwrneiau a wneir yn y rhanbarth yn fyr o ran pellter a’u bod i’r un ardaloedd neu ardaloedd cymdogol. Dyma’r siwrneiau sy’n addas ar gyfer cerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a dyma felly lle y gall gwell trafnidiaeth gyhoeddus a rhwydweithiau teithio llesol sicrhau bod y newid mewn dulliau teithio yn fwy cyraeddadwy ac apelgar. Bydd hyn yn rhoi

cyfleoedd da i bobl newid sut y maen nhw’n teithio ar gyfer siwrneiau dyddiol sy’n lleol.

Bydd yr Arglwydd Burns yn arwain yn awr ar gyfnod o feithrin cysylltiadau gyda rhanddeiliaid er mwyn rhoi canlyniadau’r adroddiad ar brawf cyn cyflwyno eu hargymhellion dros dro a’u hargymhellion terfynol.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu i wella cysylltedd ar draws y gogledd a byddaf yn diweddaru aelodau am hynt y gwaith ar fetro gogledd Cymru yn fuan. Rwyf yn falch, fodd bynnag, fod y Comisiwn eisoes wedi nodi rhannau o’r gwaith hwn yn flaenoriaeth ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus i safleoedd datblygu a safleoedd gwaith allweddol. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau a gynlluniwyd o ran cysylltedd â’r HS2, gwasanaethau uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl a’r orsaf newydd yng Nglannau Dyfrdwy.

Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Comisiwn ystyried pa mor ddibynadwy yw’r mynediad i Ynys Môn ac oddi yno yn sgil cau Pont Menai yn ddiweddar.

Edrychaf ymlaen at gael adroddiadau pellach yn ddiweddarach eleni. Mae’r Comisiwn yn awyddus i glywed barn pobl ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn y materion a godwyd a’r datrysiadau posibl i rannu eu sylwadau.

Gellir dod o hyd i’r adroddiad yma: https://www.llyw.cymru/comisiwn-trafnidiaeth-gogledd-cymru-datganiad-cynnydd-ionawr-2023