Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Rwyf am i Aelodau gael gwybod y diweddaraf am hynt fy ymholiadau i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC) a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ar faterion sy’n ymwneud â gweithgareddau tramor Prifysgol Cymru.

Mae Cadeirydd CCAUC wedi ysgrifennu ataf i ddweud bod CCAUC wrthi’n cymryd camau i sicrhau bod Prifysgol Cymru’n cael dod yn rhan o brosesau archwilio a sicrhau ansawdd y Cyngor.  Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, mae’n hynod bwysig sicrhau bod ansawdd Addysg Uwch yng Nghymru o safon rhagoriaeth – ac mae hynny’n cynnwys Prifysgol Cymru.  Bydd ei hymgorffori o fewn prosesau CCAUC yn gam pwysig yn hynny o beth.

Mae Prif Weithredwr y QAA wedi ysgrifennu i ymateb i nifer o ymholiadau gennyf ynghylch trefn arolygu QAA – yn enwedig sut y mae’n gwerthuso darpariaeth Prifysgol Cymru.  Da gennyf weld felly bod y QAA wedi cynhyrchu canllawiau newydd i Brifysgolion Prydain ar gyfer cynnal partneriaethau tramor.  Dywedodd Mr McClaren wrthyf hefyd bod y QAA wrthi’n ailystyried cwmpas a methodoleg gwaith arolygu’r QAA, hynny o ganlyniad i broblemau diweddar gyda phartneriaethau tramor Prifysgol Cymru.  Byddaf yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau.

Mae rôl Prifysgol Cymru, heddiw ac yn y dyfodol, ac ansawdd ei darpariaeth yn faterion pwysig.  Rwyf yn awr yn aros am ymateb pellach gan CCAUC ynghylch ei ymchwiliadau ym mis Ionawr i waith dilysu tramor y Brifysgol ac ar adroddiad John McCormick ym mis Chwefror ar rôl y Brifysgol yn y dyfodol, fel rhan o’r Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch.  Bydd aelodau’n cael eu hysbysu am unrhyw ddatblygiadau.