Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw derbyniais ddiweddariad gan Stenaline y bydd Porthladd Caergybi ar gau, 9 Rhagfyr, rywbryd rhwng 06:00 – 15:00 (gall y cyfnod hwn newid yn unol â rhagolygon y tywydd) oherwydd bod disgwyl gwyntoedd cryfion o Storm Bram.
Rwyf wedi cael ar ddeall nad yw cau’r porthladd yn gysylltiedig â'r digwyddiad ym Mhorthladd Caergybi ddydd Gwener, lle cafodd un o'r angorfeydd yn y porthladd ei tharo gan long. Mae Stena yn cynnal asesiad peirianneg o'r angorfa yr effeithiwyd arni a byddant yn cyhoeddi datganiad swyddogol i'r wasg ar y mater hwn yn fuan. Nid ydym yn disgwyl cael eglurder llawn ar gyflwr yr angorfa tan ddiwedd yr wythnos – fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw cau'r angorfa wedi cael unrhyw effaith ar weithrediadau'r porthladd.
Mae tasglu Môr Iwerddon, a sefydlwyd yn dilyn cau'r Porthladd ym mis Rhagfyr y llynedd, wedi cael gwybod am y digwyddiad ddydd Gwener a'r rhagolygon tywydd ar gyfer yr ychydig ddyddiau nesaf.
O ystyried y potensial ar gyfer gwyntoedd cryfion ar draws holl borthladdoedd Môr Iwerddon, rydym yn disgwyl i bob cwmni fferi gysylltu â'u cwsmeriaid ymlaen llaw, ac rydym yn annog pob teithiwr i wirio gyda'u gweithredwr fferi cyn cychwyn ar daith.
Rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn achosi trafferthion i bobl sy'n bwriadu teithio i Iwerddon ac yn ôl, ond disgwylir i'r effeithiau fod yn fyr dymor ac i bob gwasanaeth ailddechrau fel arfer ar ôl i'r storm fynd heibio.
Bydd fy swyddogion yn parhau i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â phorthladd Caergybi, Stena ac Irish Ferries, Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Iwerddon yn ystod y cyfnod o dywydd garw, ac rwyf wedi ailadrodd pwysigrwydd rhannu gwybodaeth amserol a chywir â'r holl randdeiliaid.
Gweler yr wybodaeth ddiweddaraf am y fferïau sy’n hwylio ar y gwefannau canlynol:
