Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd y Tasglu i fynd i'r afael â gwydnwch Porthladdoedd Cymru ac Iwerddon yn dilyn digwyddiadau ym Mhorthladd Caergybi ac arsylwi ar gau porthladdoedd yn amlach oherwydd tywydd gwael wrth i newid hinsawdd gael effaith. Mae trafodaethau dros y 12 mis diwethaf o fewn Tasglu Môr Iwerddon wedi atgyfnerthu pwysigrwydd Caergybi a’n porthladdoedd eraill sy’n wynebu Môr Iwerddon i gymunedau yng Nghymru, Iwerddon ac ymhellach, a’n budd a’n cyfrifoldeb cyffredin, yn awr ac yn y dyfodol, i sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn tyfu. Mae ein hagosrwydd a’n hanes morol cyffredin yn ein clymu gyda’n gilydd drwy gysylltiadau economaidd a masnachol, gyda lefelau sylweddol o allforion, buddsoddiad a thwristiaeth rhyngom.

Roedd y tasglu yn cynnwys grŵp craidd, gan gynnwys ymhlith eraill, gynrychiolwyr o Lywodraeth Iwerddon, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, cwmnïau porthladdoedd a fferïau, a chynrychiolwyr y sector logisteg. Fe wnaethom hefyd fanteisio ar arbenigedd rhai sectorau penodol yn ystod cyfarfodydd thematig y Tasglu.

Hoffwn estyn fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu dros y 12 mis diwethaf ac rwy’n falch o allu cyhoeddi ein hargymhellion. Ar ddechrau'r mis hwn, fe wnaethom ddefnyddio ein profiadau a dechrau mynd i’r afael â rhai o'r gwersi a ddysgwyd o sesiynau'r tasglu yn dilyn cau Porthladd Caergybi am gyfnod byr, ond heb orfod ymgynnull y tasglu yn ffurfiol.

Bydd llawer o’r argymhellion hyn yn cael eu cynnwys fel rhan o restr ehangach o flaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun porthladdoedd a morwrol, cludo nwyddau a logisteg yr ydym wedi ymrwymo i’w gyhoeddi cyn diwedd tymor y Llywodraeth. Bydd y cynllun a gyhoeddir yn galluogi’r Llywodraeth nesaf i weld yn glir beth yw blaenoriaethau Tasglu Môr Iwerddon a’r sector ac i’w symud ymlaen. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, rydym wedi ymrwymo i sefydlu Cyngor Logisteg Cymru. Rydym yn gweld Cyngor Logisteg Cymru fel dilyniant naturiol i’r tasglu hwn. Mae’n debygol y bydd cylch gwaith y Cyngor yn eang, felly mae hyblygrwydd yn allweddol. Er enghraifft, rydym yn gobeithio manteisio ar arbenigedd sector penodol y Cyngor unwaith y bydd wedi’i ffurfio i fonitro cynnydd yr argymhellion a gytunwyd gan y Tasglu Môr Iwerddon fel rhan o’u cylch gwaith i ystyried blaenoriaethau porthladdoedd, cludo nwyddau a logisteg a nodwyd yn y cynllun a gyhoeddwyd.

Rwyf hefyd wedi cymeradwyo gwasanaethau o dan gontract i arolygu cyfleusterau safleoedd lorïau fel gweithred flaenoriaeth i gefnogi’r cynllun a fydd yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn cefnogi ac yn llywio’r argymhellion sy’n cynnwys gwaith gwydnwch ar goridorau’r A55, A494 ac M4, symud ymlaen â gwaith ar wydnwch Croesfannau Menai a diweddariad am welliannau posibl i’r A55 a gwaith gyda phartneriaid trafnidiaeth rhanbarthol i ddeall pa welliannau pellach y gellid eu gwneud i’r A40/A477. Byddwn hefyd yn edrych ar fireinio a gwella trefniadau stacio rhag ofn bod problemau mewn porthladdoedd ac yn y pen draw ystyried atebion interim i anghenion lles gyrwyr sy’n cael eu dal neu mewn trefniadau stacio oherwydd cau porthladdoedd a darparu’r ddarpariaeth lles honno.