Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog
Rwy’n ymwybodol bod tri wedi’u harestio ddoe fel rhan o ymchwiliad Plismona Gwrthderfysgaeth.
Cafodd yr unigolion eu harestio am droseddau a amheuir o dan Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 ac maent bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae’r honiadau hyn yn rhai difrifol ac mae’n hanfodol nad ydym yn rhwystro gwaith yr heddlu mewn unrhyw ffordd nac yn gwneud drwg i unrhyw broses gyfreithiol yn y dyfodol.
Gan fod hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad byw gan yr heddlu, byddai’n amhriodol imi wneud unrhyw sylw pellach ar unrhyw agwedd ar yr achos hwn.
