Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru yn casglu pob math o ddata sy’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal diogel ac effeithiol. Mae’r casgliad eang hwn yn golygu ei bod hi’n bwysig i ni sicrhau bod systemau cadarn ar waith i reoli data’n ddiogel a defnyddio data’n well er mwyn gwella’r broses benderfynu, cynllunio ar gyfer newid a sbarduno gwelliannau mewn ansawdd a pherfformiad.

Gan adeiladu ar y bwriadon o ran gwella ac arloesi a amlinellir yn Iechyd a Gofal Gwybodus, strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG a gwasanaethau cymdeithasol. Rwy’n falch o gyhoeddi’r Datganiad o Fwriad hwn, sy’n amlinellu pedwar maes allweddol ar gyfer gweithredu a fydd yn cefnogi ein nod o ddefnyddio data iechyd a gofal yn well er mwyn darparu gwasanaethau diogel, effeithiol ac effeithlon yng Nghymru.

Mae’r Datganiad o Fwriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn:

http://gov.wales/topics/health/publications/health/guidance/digitalsoi/?skip=1&lang=cy<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />