Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Lansiodd Llywodraeth Cymru’r ddogfen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu ym mis Chwefror 2011. Roedd yn disgrifio ein rhaglen uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gofal a chymorth i ddinasyddion Cymru. Rydym eisoes wedi cymryd camau breision tuag at wireddu’r weledigaeth honno, ac fel rhan o’r newid hwnnw, mae bellach yn bryd inni edrych ar reoleiddio’r sector gofal cymdeithasol.

Mae’r rheoleiddwyr yng Nghymru, sef Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Chyngor Gofal Cymru (CGC) wedi cyflawni llawer iawn o ran codi safonau’r sector yn ystod y degawd a aeth heibio, fel y mae’r sector ei hun hefyd. Ond pan ddaw Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym bydd yn trawsnewid natur gofal a chymorth yng Nghymru. Felly mae arnom angen sylfaen ddeddfwriaethol newydd ar gyfer rheoleiddio, sy’n adlewyrchu’r tirlun newydd hwn.  

Lleisiwyd cryn bryder yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf am y ffordd y caiff gofal ei ddarparu a diogelwch y rheini sy’n ei dderbyn, yn sgil achosion fel Southern Cross, Winterbourne View a Chanol Swydd Stafford. Mae’n bwysig ein bod yn dysgu oddi wrth y rhain, ac yn dysgu o’n profiadau ni yma yng Nghymru hefyd.  

Yn olaf, wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gwahaniaethau cynyddol wedi dod i’r amlwg rhwng Cymru a Lloegr o ran modelau rheoleiddio. Mae hyn wedi arwain at fylchau o ran rheoleiddio gofal cymdeithasol trawsffiniol, ac mae angen mynd i’r afael â’r bylchau hyn.  

Byddwn felly’n cyhoeddi Papur Gwyn ar ddyfodol rheoleiddio ac arolygu gofal a chymorth ym mis Medi eleni, yn cael ei ddilyn gan Fil yn ystod oes y Llywodraeth hon. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio sail ein polisi cyn cyflwyno’r Papur Gwyn hwnnw.

Ein nodau

Parhau i roi tawelwch meddwl i’r cyhoedd a sicrhau bod canlyniadau i’r dinesydd wrth wraidd ein fframwaith rheoleiddio yw nodau ein polisi.  

Dyma ein hamcanion:

  • Rhoi sicrwydd i ddinasyddion am y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol eu darparu yng Nghymru;
  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ganlyniadau pobl sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, o ran eu llesiant;
  • Rhoi llais cryfach i’r dinesydd yng ngwaith y gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a’r ffordd y cânt eu rheoleiddio;
  • Datblygu fframwaith deddfwriaethol a fydd yn para i’r dyfodol ac yn darparu sail reoleiddio ar gyfer cenhedlaeth; 
  • Lleihau’r baich rheoleiddio drwyddo draw yn gymesur â’r risg o angen a sicrhau diogelwch a llesiant.  

Byddwn hefyd yn ceisio datblygu:

  • fframwaith rheoleiddio cryf a chadarn sy’n gymesur â’r risg 
  • dull tryloyw, effeithiol a threfnus o reoleiddio’r gweithlu a’r gwasanaeth
  • dulliau sy’n gyson â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru 
  • dulliau nad oes angen cyllid ychwanegol i’w darparu.  

Rydym wedi nodi sawl maes y mae angen eu newid er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hyn:

Canolbwyntio ar lesiant

Rydym wedi amlinellu tirlun newydd ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Darparu gwasanaethau ar sail canlyniadau yw’r cysyniad sydd wrth wraidd y dull newydd hwn.  

Cyhoeddwyd ein Datganiad Llesiant, sef cam cyntaf y gwaith hwn, ym mis Ebrill 2013. Mae’n disgrifio’r canlyniadau pwysig o ran llesiant y gall defnyddwyr a gofalwyr eu disgwyl, a’r ffordd y byddwn yn mesur i ba raddau rydym yn cyflawni’r canlyniadau hyn.  

Bellach mae angen inni newid y ffordd rydym yn rheoleiddio gofal a chymorth i gyd-fynd â’r tirlun newydd hwn. Rhaid i’r broses o reoleiddio gofal a chymorth fod yn seiliedig ar effaith gwasanaethau ar bobl, nid ar set o safonau gofynnol. Bydd safonau yn dal i fod â lle yn ein sector, ond byddwn yn gosod y safonau hynny yng nghyd-destun llesiant a chanlyniadau ar gyfer pobl.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod darparwyr, comisiynwyr a gweithwyr proffesiynol yn gallu dangos sut y maent wedi rhoi canlyniadau ar gyfer pobl wrth wraidd eu gwaith. Byddwn yn deddfu i gynorthwyo’r rheoleiddwyr i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud, os oes angen.

Llais cryfach a mwy o reolaeth i ddinasyddion

Gall rheoleiddio gyfrannu at roi mwy o lais i’r dinesydd drwy sicrhau bod gwybodaeth ystyrlon ar gael i bawb.  

Mae digwyddiadau pwysig y tu allan i Gymru wedi dysgu gwersi inni. Mae’r adroddiadau a ddeilliodd o’r achosion yn Winterbourne View a Chanol Swydd Stafford wedi dangos bod rhaid inni wrando ar gwynion gan ddefnyddwyr, gofalwyr ac aelodau o’u teuluoedd, a’u cymryd o ddifrif. Bwriadwn gryfhau’r gofynion i ddarparwyr gwasanaethau fod yn agored ac yn dryloyw, gan gynnwys cyhoeddi adroddiadau blynyddol sy’n nodi hynt y gwaith yn erbyn canlyniadau ar gyfer defnyddwyr a gofalwyr, manylion datblygu staff a chofnodion o gwynion a’r camau a gymerwyd - gan staff a dinasyddion – yn gwbl ddienw. Bydd y rhain yn rhan o’r hyn sydd ei angen er mwyn parhau ar unrhyw gofrestr y mae ACCGG yn ei chadw, a byddai ar gael i’r dinesydd. Byddwn yn defnyddio cofrestrau i roi ffordd syml i ddinasyddion weld yr wybodaeth hon. Rydym yn awyddus i hyn fod yn ddeinamig ac yn ystyrlon, gan ddarparu gwybodaeth dryloyw, ddiweddar a hygyrch am wasanaethau gofal cymdeithasol.

Credwn hefyd ei bod yn bwysig mai’r dinesydd ei hun sy’n llywio’r broses reoleiddio. Mae’r model Cymreig o Gyngor Gofal sy’n cael ei arwain gan leygwyr wedi gweithio’n dda, ac yn torri tir newydd. Byddwn yn parhau i gefnogi’r dull hwn o lywodraethu. Rydym hefyd yn ystyried ymestyn y dull llywodraethu hwn, a deddfu i’w gwneud yn ofynnol bod AGGCC yn sicrhau bod dinasyddion yn cyfrannu at ffurfio, at asesu a hyd yn oed at helpu i gynnal gweithgareddau rheoleiddio.  

Rheoleiddio gwasanaethau yn gadarn ac yn eang

Mae AGGCC wedi dod â budd sylweddol i ddinasyddion dros y pymtheng mlynedd diwethaf, wrth reoleiddio gwasanaethau.  

Yn achos Southern Cross ac eraill, fodd bynnag, rydym wedi gweld bod methiannau annisgwyl o ran hyfywedd darparwyr gofal yn arwain at risgiau. Fel y crybwyllais yn fy Natganiad Ysgrifenedig diweddar ar fethiant ar ran darparwyr, rwy’n awyddus i ddiwygio Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar unwaith er mwyn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol Cymru i ddarparu ar gyfer anghenion gofal uniongyrchol y rheini sy’n cael eu heffeithio gan fethiant ar ran darparwyr yn eu hardal. Bydd hyn yn debyg i’r darpariaethau sydd ym Mil Gofal Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr. Bydd y Papur Gwyn yn cyflwyno mesurau pellach i fynd i’r afael â’r rhesymau bod darparwyr yn methu. Bydd yn symud tuag at greu cofrestr o sefydliadau, a nodi enwau unigolion cyfrifol. Bydd rhaid i’r unigolion hynny ddangos eu bod yn addas, a’u bod mewn sefyllfa gadarn o safbwynt ariannol a’u gallu i lywodraethu er mwyn cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol neu weithwyr cymdeithasol sydd wedi’u hyfforddi a/neu sydd wedi cymhwyso’n briodol i ddarparu gwasanaethau yn ein sector. Byddwn yn disgwyl i’r sefydliadau hyn ddarparu adroddiadau a thystiolaeth reolaidd i gadarnhau eu bod yn parhau i fod yn addas i weithredu. Ni chaniateir iddynt weithredu yn y sector oni bai eu bod yn gwneud hyn.

Caiff amrywiaeth o wasanaethau traddodiadol, fel cartrefi gofal, asiantaethau gofal cartref a chartrefi plant eu rheoleiddio o dan y ddeddfwriaeth sydd ohoni. Ond mae mwy a mwy o fodelau gwasanaeth nad ydynt yn perthyn i’n fframwaith rheoleiddio presennol. Bwriad ein polisi yw sicrhau, cyhyd ag y gellir, fod pob dinesydd sy’n derbyn gofal a chymorth yn gallu profi’r sicrwydd sy’n deillio o fframwaith rheoleiddio cadarn. Yn achos Taliadau Uniongyrchol, er enghraifft, byddwn yn edrych sut y gallwn ddarparu gwell gwybodaeth i ddinasyddion fel y gallant gyflogi darparwyr gofal priodol, a hynny drwy newid y ddeddfwriaeth os bydd angen. Byddaf hefyd yn edrych sut y dylai’r drefn reoleiddio ymateb i unrhyw fframwaith deddfwriaethol newydd yn ymwneud â gwasanaethau eiriolaeth.

Bydd y Papur Gwyn a’r ymgynghoriad yn archwilio’r posibilrwydd o godi tâl am gofrestru ac am rai gwasanaethau rheoleiddio, er mwyn asesu a all hyn gyfrannu at wneud y berthynas rhwng y rheoleiddiwr a’r sector yn un fwy proffesiynol.  

Mae rheoleiddwyr wedi bod yn datblygu fframwaith mwy cadarn yng Nghymru ar gyfer cymryd camau gorfodi priodol pan fydd angen. Bwriadwn sicrhau bod y Bil Rheoleiddio ac Arolygu yn eu cynorthwyo i wneud hyn, ac yn sicrhau bod camau gorfodi cadarn yn effeithiol fel rhan o ddull hollgynhwysol o roi sicrwydd i’r cyhoedd, diogelu’r cyhoedd a gwella’r ddarpariaeth.

Tîm Darparu Cryf a Phroffesiynol

Rydym wedi gweithio’n galed i roi mwy o gydnabyddiaeth i’r gweithlu gofal cymdeithasol a’i wneud yn fwy proffesiynol yn ystod y 14 mlynedd diwethaf. Mae buddsoddiad cyson Llywodraeth Cymru mewn rheoleiddio a hyfforddi, a gwaith llwyddiannus Cyngor Gofal Cymru wedi cefnogi’r datblygiadau pwysig hyn.  

Wrth edrych ymlaen at y degawd nesaf, rydym yn awyddus i ystyried sut y gall Cyngor Gofal Cymru fynd ati i ddatblygu Coleg Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau o ran datblygu’r gweithlu. Credwn mai hyn, o bosibl, yw’r cam mawr nesaf tuag at wneud ein gweithlu yn fwy proffesiynol, heb roi unrhyw bwysau newydd ar ein hadnoddau prin. Gallai ei swyddogaethau gynnwys agweddau fel goruchwylio safonau, cynlluniau datblygu a dysgu, gweithredu fel canolbwynt i wybodaeth ar arferion seiliedig ar dystiolaeth, bod yn ganolbwynt i gynlluniau i wella’r gwasanaethau cymdeithasol, cefnogi’r gwaith o ddatblygu gallu ym maes ymchwil ac ymchwil gymhwysol, a helpu llunwyr polisïau i ddatblygu arferion gorau, yn lleol ac yn genedlaethol.

Bydd ein dull o reoleiddio’r gweithlu yn dal i ganolbwyntio ar y gofrestr broffesiynol sy’n seiliedig ar gymwysterau. Bydd y gofrestr yn gallu cynnwys unigolion sy’n dilyn sawl trywydd gwahanol er mwyn ymuno â’r proffesiwn, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.  

Er nad ydym wedi’n perswadio ar hyn o bryd bod angen mynnu bod holl weithwyr y sector gofal cymdeithasol yn cofrestru er mwyn darparu gwasanaethau, byddwn yn deddfu fel y gallwn gynnwys grwpiau newydd o’r gweithlu. Efallai y bydd angen gwneud hyn er mwyn ymateb i fodelau gwasanaeth newydd a swyddogaethau newydd o fewn y gweithlu yn y dyfodol.

Byddwn yn dileu’r ddarpariaeth ar gyfer cofrestru’n wirfoddol i ddibenion rheoleiddio gofal cymdeithasol, oherwydd ni chredwn fod hyn yn cyfrannu at roi sicrwydd i’r cyhoedd. Gall hefyd achosi dryswch i’r cyhoedd a gadael i ymarferwyr isel eu safon fynd drwy’r rhwyd.  

Gweithio gyda’n gilydd

Gweinidogion Cymru sy’n bennaf gyfrifol am reoleiddio ac arolygu’r gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Llywodraeth Cymru a Chyngor Gofal Cymru, Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cyflawni’r swyddogaethau hyn.

Mae’r swyddogaethau y mae’r trefniadau hyn yn eu cyflawni yn rhai pwysig ac angenrheidiol.

Mae’r sylfaen deddfwriaethol ar gyfer darparu a lleoli’r swyddogaethau hyn yn gaeth ac nid yw’n rhoi’r hyblygrwydd inni allu eu had-drefnu pe byddai angen. Bydd ein Papur Gwyn yn ceisio barn ynghylch y trefniadau priodol ar gyfer darparu swyddogaethau rheoleiddio yn y dyfodol, a’u trefniadau atebolrwydd, gan gynnwys rôl y Gweinidogion, er mwyn cyfrannu at ddatblygu ein polisi yn y tymor canolig i’r tymor hir. Byddwn yn defnyddio’r Bil i roi’r pwerau angenrheidiol inni sicrhau bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau hyn yn y tymor hir.

Byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i sicrhau arbedion wrth ddarparu swyddogaethau rheoleiddio, fel y gall asiantaethau gydweithio’n well â’i gilydd.

Gall cydweithredu a chydweithio agos rhwng cyrff rheoleiddio arwain at fanteision gwirioneddol i’r Llywodraeth, i ddarparwyr ac i ddinasyddion. Dyma un o brif wersi’r adroddiadau diweddar ar fethiannau ym maes gofal cymdeithasol. Rydym eisoes wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran rhannu gwybodaeth ar draws CGC ac AGGCC yn ddiweddar. Rydym am weld hynny’n parhau, ond yn gyflymach nag erioed. Ni welwn unrhyw reswm pam na all asiantaethau weithio i greu un dull o rannu gwybodaeth, a’i diogelu’n briodol. 


Rheoleiddio Gwasanaethau Mabwysiadu

Rydym yn lansio Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru ym mis Ebrill 2014. Byddwn yn mynd ati’n awr i ystyried goblygiadau rheoleiddio ac arolygu asiantaethau mabwysiadu awdurdodau lleol fel rhan o’r model newydd ar gyfer cydweithredu rhanbarthol.

Byddwn yn symleiddio prosesau presennol, er mwyn lleihau’r baich ar awdurdodau lleol ac ar y rheoleiddiwr o ran arolygu, ond gan barhau i ddarparu sicrwydd i’r cyhoedd. Bwriadwn wneud hyn drwy edrych ar y posibilrwydd o arolygu pob un o’r mentrau cydweithredol rhanbarthol newydd, yn hytrach na phob un o 22 asiantaeth fabwysiadu’r awdurdodau lleol. Nid ydym yn bwriadu cyflwyno unrhyw newidiadau o ran rheoleiddio ac arolygu asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol.  
Symleiddio a Chysoni Deddfwriaeth

Roedd Deddf Safonau Gofal 2000 yn rhoi cryn hwb ar gyfer newid a moderneiddio trefniadau rheoleiddio ac arolygu yng Nghymru. Mae angen disodli’r Ddeddf erbyn hyn, fodd bynnag, a hynny i raddau helaeth am fod deddfwriaeth arall wedi’i disodli yn Lloegr. Mae cyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) hefyd yn newid y tirlun rheoleiddio ac arolygu yn sylweddol yma yng Nghymru.  

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 hefyd yn cynnwys sawl agwedd ar reoleiddio gofal cymdeithasol sy’n arwain, oherwydd eu natur, at fwy o amlygrwydd i faterion trawsffiniol (ffin Cymru/Lloegr). Mae hyn yn cynnwys, yn arbennig, Asiantaethau Gofal Cartref yng Nghymru sy’n rhai “lloeren” i ddarparwyr yn Lloegr, nad ydynt wedi’u cofrestru ag AGGCC ond â’r Care Quality Commission, sy’n rheoleiddio gwasanaethau yn Lloegr yn unig. Golyga hynny fod gwasanaethau yn cael eu darparu yng Nghymru nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan AGGCC ar hyn o bryd.

Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn ceisio ailddiffinio’r system reoleiddio gofal cymdeithasol er mwyn datrys y materion ‘trawsffiniol’ hyn. System sy’n berthnasol i Gymru ac i’r rheini sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru yn unig fydd hon, i’r graddau y mae hynny’n cyd-fynd â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd o ran rhyddid gwasanaethau i symud o gwmpas.