Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rhaglen waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (yr Asiantaeth) sef “Rheoleiddio ein Dyfodol”  yn nodi cynigion yr Asiantaeth ar gyfer system reoleiddio gynaliadwy ac effeithiol newydd gyda’r nod o sicrhau bod busnesau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cyflawni eu cyfrifoldebau wrth gynhyrchu bwyd sy’n ddiogel, ac sy’n cyfleu beth ydyw. Bwriad yr Asiantaeth yw y bydd y rhaglen reoleiddio newydd yn ailddiffinio sut y bydd yn cael sicrwydd bod busnesau’n gwneud y peth iawn i gwsmeriaid. Gyda hyn mewn golwg mae’r Asiantaeth yn bwriadu dylunio fframwaith rheoleiddio newydd sy’n ddigon dynamig i symud ymlaen ochr yn ochr â datblygiadau ar draws y sector bwyd ac arddel technolegau newydd, ac sy’n ddigon hyblyg i addasu i amgylchiadau yn y dyfodol, megis y berthynas newydd y bydd ei hangen â’r Undeb Ewropeaidd.  Mae gwefan yr Asiantaeth yn rhoi gwybodaeth bellach am y rhaglen waith hon

https://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru/amdanomni/regulating-our-future

Mae cylch gwaith yr Asiantaeth yn effeithio ar nifer o bortffolios Gweinidogion, gan hybu rhyngweithio aml rhwng swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, yn enwedig gyda’r adrannau sy’n fy nghefnogi i, fel y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a’r Athro Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth leol. Rydym wedi ystyried y cynigion ar eu ffurf bresennol yn rhaglen waith “Rheoleiddio ein Dyfodol” ac mewn ymateb wedi datblygu Datganiad Sefyllfa Llywodraeth Cymru. Mae’r datganiad a gafodd ei ystyried a’i gytuno gan fy nghyd-weinidogion a minnau, a gafodd ei hanfon i’r Asiantaeth ar 13 Rhagfyr 2016, wedi’i nodi isod er gwybodaeth ichi. Bwriedir i’r Datganiad Sefyllfa hwn roi eglurder i’r Asiantaeth yng Nghymru ar sefyllfa Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i ddatblygu ei chynigion.


Datganiad Sefyllfa Llywodraeth Cymru mewn ymateb i gynigion Rheoleiddio ein Dyfodol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

• Wrth gynnig newid yn y system bresennol ar gyfer diogelwch bwyd, dylai’r Asiantaeth Safonau Bwyd ystyried yn gyntaf ei phrif nod statudol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag peryglon a allai godi mewn cysylltiad â bwyta bwyd, ac fel arall i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

• Dymuniad Llywodraeth Cymru yw gweld yr Asiantaeth, fel rhan o raglen waith Rheoleiddio ein Dyfodol, yn archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno system gofrestru neu drwyddedu ehangach lle byddai cymeradwyaeth ymlaen llaw yn ofynnol yn hytrach na hawl i gofrestru gan fusnesau bwyd, a bod yr Asiantaeth yn cynghori Llywodraeth Cymru ar hynny. Trwy wneud hynny, dylai’r Asiantaeth ystyried cwmpas codi ffi ar ymgeiswyr i adennill y costau, neu’r costau disgwyliedig, sy’n deillio o gymryd mesurau rheoli swyddogol.

• Dewis Llywodraeth Cymru yw bod arolygiadau hylendid bwyd gan awdurdod lleol, sy’n barhaus, yn gyson ac yn annibynnol, yn cael eu blaenoriaethu a’u cynnal ar lefelau priodol.

• Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod achredu ac archwiliadau trydydd parti yn gallu gwella lefel cydymffurfiaeth busnesau, a’u gallu i ddarparu cynhyrchion bwyd wedi’u gweithgynhyrchu i fusnesau bwyd eraill. Gellid defnyddio achredu ac archwiliadau trydydd parti gan awdurdodau lleol hefyd fel tystiolaeth wrth nodi lefelau cydymffurfiaeth, y risgiau a gymerir  ac amlder yr ymyrraeth. Ni ddylid eu hystyried fel modd i ddisodli’r angen am archwiliadau diogelwch bwyd annibynnol gan awdurdod lleol.

• Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth godi safonau hylendid bwyd busnesau yng Nghymru. Mae gan ddefnyddwyr a busnesau hyder yn yr arolygiadau annibynnol, cyson a gynhelir gan awdurdodau lleol sy’n cynhyrchu sgoriau. Mae’r sgoriau’n cael eu cynhyrchu o ganlyniad i arolygiadau ymyrraeth. Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld hyder defnyddwyr yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn cael ei danseilio gan arolygiadau anghyson, neu arolygiadau a gynhelir gan archwilwyr nad ydynt yn annibynnol ar y busnes bwyd dan sylw neu’r rheini y maent yn eu cyflenwi. Byddai hefyd yn amhriodol pe byddai busnesau bwyd yn cael eu harolygu o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn annibynnol ar arolygiadau ymyrraeth. Byddai hyn yn ychwanegu at y baich y byddai’r busnesau hynny yn ei deimlo yn sgil yr archwilio, a byddai’n galw am lawer o adnoddau gan fusnesau a rheoleiddwyr. O fis Tachwedd 2016, bydd y cynllun yn cael ei ehangu i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau cludfwyd penodol gyhoeddi gwybodaeth am sgoriau hylendid ar gopïau caled o’u taflenni ac mae cynlluniau ar y gweill i ofyn iddynt gyhoeddi sgoriau hylendid bwyd ar eu gwefannau. Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru ac mae eisoes yn cael ei efelychu mewn gweinyddiaethau eraill. Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld y system hon yn cael ei pheryglu gan newidiadau a achosir gan “Rheoleiddio ein Dyfodol”.

• Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu newidiadau sy’n gwella rheoleiddio busnesau bwyd drwy ddefnyddio dull yn seiliedig ar ‘yr hyn sy’n gweithio’ i wella gwasanaethau ledled Cymru. Dylai unrhyw welliannau o’r fath bara ar gyfer y tymor hir a bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

• Mae Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo nod yr Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau bod pob busnes bwyd yn derbyn yn llawn ei ddyletswydd i ddiogelu’r cwsmer, ac yn rhoi blaenoriaeth i’r ddyletswydd honno ac yn ei chyflawni.

Yn unol ag egwyddor cydweithio ar draws portffolios Llywodraeth Cymru, mae’r datganiad sefyllfa hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yr Athro Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.