Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn hanfodol bwysig i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru a'n heconomi twristiaeth heddiw. Mae'n cefnogi bywoliaeth pobl y cymunedau o'i hamgylch a'r bywyd gwyllt sy'n ei galw'n gartref. 

Mae'r gamlas yn dibynnu ar gyflenwad digonol o ddŵr i weithredu. Am dros 200 mlynedd, tynnodd perchnogion y gamlas, Glandŵr Cymru, ddŵr o Afon Wysg i gynnal y cyflenwad hwn o dan eithriad. Fodd bynnag, yn 2018, roedd newid deddfwriaethol yn golygu bod angen trwydded i wneud hyn gydag amodau a gynlluniwyd i ddiogelu nodweddion Afon Wysg sy'n Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig.  Mae'r amodau hyn yn cyfyngu ar faint o ddŵr y gellir ei gymryd ar gyfer y gamlas yn ystod llif isel ar yr afon. 

Mewn byd o newid yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd sy'n newid, mae hyn wedi achosi heriau o ran cyflenwi dŵr i'r gamlas. Mae cryfder y teimlad a'r gefnogaeth gyhoeddus tuag at y gamlas yn amlwg, ac rwy'n rhannu'r nod cyffredin o gefnogi'r gamlas wrth fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol brys sy'n bygwth statws ecolegol Afon Wysg. 

Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Dŵr Cymru a Glandŵr Cymru eu bod wedi dod i gytundeb ar ddatrysiad tymor byr i gyflenwi'r gamlas â dŵr ychwanegol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'r cytundeb hwn yn rhedeg tan fis Ebrill 2026. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod yn rhaid i Dŵr Cymru weithio o fewn cyfyngiadau rhwymedigaethau ei drwydded weithredu mewn perthynas â'i ffioedd ac ni all ddarparu cyflenwad dŵr sy'n peryglu cyflenwad cwsmeriaid eraill. Mae'r trefniant hwn wedi cynnig achubiaeth i'r gamlas, ac er nad yw Llywodraeth Cymru yn rhan o'r trafodaethau masnachol hyn, rydym yn falch o glywed y newyddion cadarnhaol hwn, a bod eu trafodaethau'n parhau. 

Rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i ddod o hyd i ateb hirdymor cynaliadwy ac ymarferol i’r heriau sy’n wynebu’r gamlas, gan gydnabod hefyd y gallai atebion posibl gwympo’n bennaf o fewn cylch gorchwyl y rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli'r gamlas a'i seilwaith hanesyddol. 

Felly, roeddwn yn falch o ddod â'r rhai sydd â diddordeb yn nyfodol y gamlas at ei gilydd mewn cyfarfod ar 10 Gorffennaf.  Roedd hyn yn cynnwys Glandŵr Cymru, yr Awdurdodau Lleol sy'n ffinio â'r gamlas, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd ein ffocws ar yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd i gefnogi ateb cynaliadwy i heriau uniongyrchol a heriau'r tymor hwy 

Roedd hon yn drafodaeth gadarnhaol, a nodwyd rhai opsiynau diddorol i'w hystyried ymhellach. Rwyf wedi cytuno i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddatblygu’r drafodaeth gadarnhaol hon. 

Roedd yn glir mai'r flaenoriaeth uniongyrchol yw nodi'n gyflym y camau y mae angen eu cymryd er mwyn rhoi sicrwydd i'r rhai y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y gamlas am y flwyddyn nesaf. 

Rwy’n bwriadu blaenoriaethu cyllid cyfalaf o hyd at £5m o fewn fy nghyllideb i uwchraddio’r orsaf bwmpio, sy’n cefnogi’r cytundeb dros dro presennol. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion drafod â Dwr Cymru ar unwaith er mwyn symud ymlaen â’r gwaith angenrheidiol eleni. Gobeithiaf y bydd hyn yn sail i roi sylfaen hir dymor i’r trefniant.  Mae hyn yn arwydd clir o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddyfodol y gamlas.

Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn darparu lle i ddatblygu opsiynau pellach i adeiladu gwydnwch yng nghapasiti'r gamlas ac yn nodi sut y telir costau unrhyw waith cyfalaf a chostau parhaus y dŵr a gyflenwir.  Bydd angen ymdrech ar y cyd i gyflawni hyn, a pharodrwydd gan yr holl bartneriaid i gyfrannu at ddatrysiad cynaliadwy. 

Rydym i gyd eisiau i'r gamlas ffynnu. Rhaid i ni ddod o hyd i ateb sy'n ymarferol ac yn gynaliadwy i bobl Cymru - nawr ac i genedlaethau'r dyfodol. Bydd hyn yn gofyn am ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi'r gamlas gan sicrhau statws ecolegol Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg.