Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Er mwyn hawlio ffioedd sy’n uwch na’r swm sylfaenol o £4,000 rhaid i sefydliadau fod â chynlluniau ffioedd cymeradwy.  Rhaid i’r cynllun ffioedd nodi amcanion y sefydliad o ran hybu cyfle cyfartal a hyrwyddo addysg uwch.  Gyda chynllun ffioedd sydd wedi’i gymeradwyo gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), caiff y sefydliad godi ffioedd hyd at y swm a nodir yn y cynllun ffioedd ar gyfer y cwrs hwnnw, yn amodol ar yr uchafswm penodedig o £9,000.  Os nad yw sefydliad wedi cytuno ar gynllun erbyn 1 Hydref 2011, ni chaiff godi ffioedd dysgu sy’n uwch na £4,000 ym mlwyddyn academaidd 2012/13.

Ym mis Mawrth 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i CCAUC, ac mae gofyn i’r Cyngor dalu sylw i’r canllawiau hynny wrth gyflawni ei ddyletswyddau cymeradwyo a gorfodi cynlluniau ffioedd.  Roedd y canllawiau yn ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i sefydliadau gytuno ar dargedau cadarn a heriol ar gyfer hyrwyddo cyfle cyfartal i addysg uwch.

Ym mis Mehefin, hysbyswyd pob sefydliad gan CCAUC nad oedd yr un o’u cynlluniau ffioedd yn bodloni’r gofynion, a gofynnwyd iddynt wneud rhagor o waith i sicrhau bod y gofynion yn cael eu bodloni.  Ym mis Mehefin, bu’r sefydliadau yn gofyn am gyngor gan CCAUC i sicrhau bod eu cynlluniau’n gadarn a bod eu cynigion i hybu cyfle cyfartal a hyrwyddo addysg uwch yn ddigon uchelgeisiol.  Cyflwynodd y sefydliadau gynlluniau ffioedd diwygiedig i’w hystyried.

Heddiw, mae CCAUC wedi hysbysu’r sefydliadau am ganlyniad yr ystyriaeth a roddodd y Cyngor i’r cynlluniau diwygiedig hynny.   Bydd gan y rhan fwyaf o’r sefydliadau gynlluniau cymeradwy erbyn blwyddyn academaidd 2012/13.  Mae cynlluniau’r sefydliadau yn nodi’r buddsoddiad ychwanegol y byddant yn ei wneud i hyrwyddo cyfle cyfartal, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer cefnogi myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.

Bu hon yn broses rymus. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i sefydliadau roi gwerth am arian, cefnogi mynediad at addysg uwch o blith grwpiau a dangynrychiolir a rhoi profiad ardderchog i fyfyrwyr.

Os bydd sefydliad yn methu â chydymffurfio â darpariaethau cynllun ffioedd cymeradwy, gall CCAUC hysbysu’r sefydliad, pan ddaw’r cynllun presennol i ben, y bydd yn gwrthod cymeradwyo cynllun newydd am flwyddyn.  Felly, mae o fantais i sefydliadau sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r darpariaethau yn eu cynlluniau ffioedd ac rwy’n disgwyl i CCAUC barhau i fonitro perfformiad sefydliadau i sicrhau bod yr ymrwymiadau a wneir yn cael eu cyflawni yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gennym.