Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr hydref diwethaf, aethom ati i roi gwybod i Aelodau o’r Senedd am gynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Yn ddiweddar, cyfarfu’r Prif Weinidog, Arweinydd Plaid Cymru a minnau â Chydgadeiryddion y Comisiwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ei waith. Yn yr ysbryd o fod yn agored, rydym yn rhannu copi o’r adroddiad cynnydd a ddarparwyd gan y Cydgadeiryddion Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad cynnydd

Lansiodd y Comisiwn ei alwad am dystiolaeth ar 31 Mawrth er mwyn casglu gwybodaeth i lywio ei waith. Mae’r Comisiwn hefyd yn datblygu strategaeth ymgysylltu lawnach i fodloni ein cais iddo ddatblygu rhaglen o ymgysylltu cynhwysol â’r gymdeithas ddinesig a’r cyhoedd yng Nghymru i ysgogi sgwrs genedlaethol.

Nododd y Cadeiryddion fod y Comisiwn ar y trywydd iawn i gwblhau ei adroddiad interim erbyn diwedd y flwyddyn.

Byddwn yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau cyn toriad yr haf.