Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwneir y datganiad hwn yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru).

Pasiwyd y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 21 Mawrth ac fe gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin.

Fel rhan o'r Cytundeb Rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), dechreuodd Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y byddai'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn cael ei dileu drwy osod rheoliadau drafft dan adran 22 o'r Ddeddf.

Mae rheoliadau sy'n cael eu cyflwyno dan adran 22 o'r Ddeddf yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwch. Gosodwyd y rheoliadau drafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 8 Mehefin am gyfnod o 60 diwrnod (gan anwybyddu unrhyw amser pan oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod).

Mae paragraff 1(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i:

  • unrhyw sylwadau,
  • unrhyw benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac
  • unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,

a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft.

Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno gwneud rheoliadau ar ffurf y drafft, rhaid iddynt osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi a gyflwynwyd unrhyw sylwadau ac, os felly, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

Daeth y cyfnod o 60 o ddiwrnodau ar gyfer sylwadau i ben ar 1 Hydref, ac fe ddaeth un sylw i law gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Rheoliadau drafft.  

Nododd y Pwyllgor un pwynt i gyflwyno adroddiad arno dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn fel a ganlyn:

Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
Rydym yn nodi arwyddocâd y Rheoliadau hyn a’r ffaith y byddai’r diddymiad yn golygu y bydd materion cyfansoddiadol a chyfreithiol pwysig (megis parhad cyfraith Cymru sy’n gysylltiedig â’r UE ar ôl ymadael, a phwerau Gweinidogion Cymru i gywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir) yn cael eu trin o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.  
Rydym hefyd yn nodi bod diddymu’r Ddeddf yn rhan o’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.


Ni chafwyd unrhyw sylwadau eraill, nac unrhyw benderfyniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol na chwaith unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft.

Yn dilyn gosod y datganiad hwn, mae Gweinidogion Cymru nawr am geisio penderfyniad gan y Cynulliad yn cymeradwyo'r rheoliadau drafft, gan ganiatáu iddynt wneud y Rheoliadau ar ffurf y drafft.