Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Gorffennaf 2011, cyhoeddais y cyngor a gyflwynwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ynghylch y strwythur a argymhellwyd ar gyfer y sector addysg uwch yn yr adroddiad Future Structure of Universities in Wales. Yn yr adroddiad hwn, argymhellwyd y dylai Prifysgol Glyndŵr ddatblygu perthynas strwythurol gref gyda nifer o golegau addysg bellach o fewn strwythur grŵp a gâi ei arwain gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Ar ôl ystyried y materion a godwyd yn ystod yr ymarferiad ysgrifenedig dilynol, cyflwynais ddatganiad gerbron y Cynulliad ar 29 Tachwedd yn dweud wrth yr Aelodau nad oeddwn yn derbyn cyngor CCAUC ynglŷn â Gogledd Cymru. Yn unol â’r dadleuon a nodwyd gan nifer o randdeiliaid, roeddwn o’r farn bod achos ar gyfer ystyried yn fwy gofalus y patrwm presennol o ddarpariaeth yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac edrych yn fanylach ar yr opsiynau ar gyfer sicrhau mwy o gydlyniaeth ranbarthol wrth ddarparu addysg uwch ac addysg bellach.

Gallaf bellach gadarnhau y caiff Panel Adolygu annibynnol ei sefydlu o dan Gadeiryddiaeth Yr Athro Syr Adrian Webb er mwyn cynnal “Adolygiad o’r Ddarpariaeth Addysg Uwch yng Ngogledd-ddwyrain Cymru”.

Tasg y Panel fydd cynnig barn gytbwys, glir a diragfarn am y math o ddarpariaeth addysg uwch a fyddai’n gwasanaethu anghenion economaidd, cymdeithasol yr ardal orau ynghyd ag anghenion ei dysgwyr. Dyma fydd prif amcanion yr adolygiad:

• pennu’r hyn y dylai darpariaeth addysg uwch gynhwysfawr ei gynnig yng Ngogledd-ddwyrain Cymru;
• penderfynu i ba raddau y mae patrwm presennol y ddarpariaeth addysg uwch yn adlewyrchu’r arlwy hon;
• argymell modelau sydd naill ai’n newydd neu’n well ar gyfer y ddarpariaeth sy’n ystyried natur ddemograffig, gymdeithasol ac economaidd y Gogledd-ddwyrain a hefyd yr angen i sicrhau mwy o gydlyniaeth ranbarthol wrth ddarparu addysg uwch ac addysg bellach.

Byddaf yn disgwyl i’r Panel gasglu a gwerthuso’r data a’r gwaith ymchwil gorau sydd ar gael ynghyd ag unrhyw dystiolaeth arall sydd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys casglu tystiolaeth gan randdeiliaid lleol a fydd yn cynnwys undebau llafur perthnasol a myfyrwyr.

Ymhlith aelodau’r Panel Adolygu fydd unigolion sy’n arbenigo yn eu meysydd ac yn brofiadol ynddynt. Bydd ganddynt hefyd wybodaeth fanwl am ehangder y ddarpariaeth addysg uwch a fydd yn amrywio o waith ymchwil rhyngwladol i ddysgu seiliedig ar waith ac ehangu mynediad. Byddant hefyd yn deall y cyswllt rhwng addysg uwch ac addysg bellach ynghyd ag anghenion a gofynion cyflogwyr.

Dyma fydd aelodau’r Panel:

- Yr Athro Syr Adrian Webb / Cadeirydd (Cyn Is-Ganghellor Prifysgol Morgannwg; bu’n arweinydd ar sefydliad ymchwil pum seren ac yn Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru; mae hefyd wedi ymgymryd â nifer o swyddi uchel eu proffil o fewn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a Whitehall; Cadeirydd Adolygiad Annibynnol o Genhadaeth a Phwrpas Addysg Bellach yng Nghymru sef “Adolygiad Webb” ac aelod o “Adolygiad Beecham” ar beirianwaith llywodraethu yng Nghymru);

- Yr Athro Mari Lloyd Williams Athro a Chyfarwyddwr Astudiaethau Gofal Lliniarol a Chynhaliol Academaidd ac Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn Meddygaeth Liniarol ym Mhrifysgol Lerpwl; Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Seicogymdeithasol Tenovus;  aelod o Gyngor CCAUC ac aelod o Adolygiad McCormick o Lywodraethu Addysg Uwch; Cyn Aelod o Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol;  cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

- Yr Athro Geraint Johnes (Deon Astudiaethau Graddedig ac Athro Economeg ym Mhrifysgol Caerhirfryn; yn flaenllaw yn y byd academaidd drwy ei waith ymchwil ar economeg llafur mae ganddo hefyd ddiddordeb ac arbenigedd ym maes economeg addysg; ef hefyd oedd y golygydd a sefydlodd y cylchgrawn Education Economics);

- John Stephenson (Cyn Brifathro Coleg Powys, Dirprwy Brifathro Coleg Beverley a Phennaeth Coleg Technoleg a Gwyddoniaeth Dwyrain Swydd Efrog; cyn Gyfarwyddwr a Chadeirydd Fforwm a chyn Gadeirydd Gweithrediaeth Rhaglen Ewropeaidd Cymru).  

- Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Jones PC (AS Alun a Glannau Dyfrdwy a Dwyrain Fflint 1970–2001; cyn Lywydd Prifysgol Glyndŵr; nifer o swyddogaethau Seneddol gan gynnwys Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru 1974-79; Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r Wrthblaid 1983-92; aelod o Banel Cadeirydd Tŷ’r Cyffredin; cyn mynd yn Aelod Seneddol roedd yn Bennaeth Saesneg yn Ysgol Uwchradd Glannau Dyfrdwy);

- Gary Griffiths (Pennaeth Rhaglenni Prentisiaethau Airbus UK; aelod o Banel “Adolygiad Webb”; yn aelod o nifer o gyrff cynghori gan gynnwys Grŵp Strategaeth Sgiliau’r Sector Awyrofod, Prosiect Rhyngwladol Strategol Airbus ar gyfer Sgiliau, Grŵp Prentisiaethau Peirianneg Uwch y DU, a Grŵp Pedair Gwlad SEMTA a Grŵp Fframwaith Cymwysterau a Chredydau);

- Rachel Clacher (Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr “Money Penny” yn Wrecsam, sef y gwasanaeth ateb ffôn allanol mwyaf yn y Deyrnas Unedig a enillodd Wobr y Frenhines am Fenter; siaradwraig reolaidd mewn digwyddiadau ym meysydd busnes a diwydiant ar ddiwylliant a thwf busnesau yn ogystal â’u gofynion o ran sgiliau); a

- Gill Atkinson (Cyfrifydd Siartredig a Phartner/Cyfarwyddwr cwmni Cyfrifwyr MD Coxley yn Wrecsam; yn mentora busnesau lleol; wedi helpu i lansio grŵp Proffesiynol Busnesau Wrecsam).

Bydd y Panel Adolygu yn cyflwyno ei ganfyddiadau a’i argymhellion i mi erbyn 30 Ebrill 2013.