Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ei Ddatganiadau ar Ynni Cymru, nododd y Prif Weinidog bod gennym gyfle i fanteisio ar botensial gwych ein gwlad i greu ynni er mwyn sicrhau Cymru sy'n decach ac yn fwy llewyrchus.

Wrth i mi ysgwyddo cyfrifoldeb portffolio dros ynni, mae'r datganiad hwn yn nodi sut y byddaf yn parhau i symud tuag at economi carbon isel - gan weithio gyda'r diwydiant a rhanddeiliaid eraill, a gan gydnabod yr angen i greu amgylchedd sy’n sefydlog ac yn flaengar, ond eto'n hyblyg ar gyfer buddsoddi a chreu swyddi yn y tymor hir.

Mae newid mawr ar droed i’r system ynni yng Nghymru a thu hwnt, a hynny’n cael ei yrru gan amcanion newydd ym maes ynni, technoleg a symud tuag at ynni carbon isel.  Mae'r newid hwn, ynghyd â'r materion sy'n codi'n gyson fel fforddiadwyedd, effeithlonrwydd a sicrwydd cyflenwad, yn cynnig cyfleoedd a heriau enfawr y mae Llywodraeth Cymru'n benderfynol o'u hateb.

Gyda'n hanes hir ym maes ynni, ein prifysgolion blaengar, ein treftadaeth ddiwydiannol a'n seilwaith ynni bresennol, a digonedd o adnoddau adnewyddadwy ar dir a môr, mae Llywodraeth Cymru mewn lle da iawn i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi.

Sefydlogrwydd ac Eglurder

Rwyf wedi gwrando ar gyngor Grŵp Cyflawni Strategol Ynni Cymru, Panel y Sector Ynni a'r Amgylchedd a'r diwydiant ehangach. Y farn ysgubol yw mai ynni yw un o'n hanfodion economaidd pwysicaf, bod cost a sicrwydd cyflenwad ynni yn parhau i fod yn allweddol, a bod cyfle i adeiladu ar y sylfaen gadarn a osodwyd yn Natganiad Ynni Cymru a gyhoeddwyd yn 2012.

Mae'r diwydiant am weld sefydlogrwydd ac eglurder o ran polisi er mwyn lleihau peryglon a hwyluso buddsoddiad mewn ynni. Mae'r angen hwn yn cael ei ddwysáu gan y diffyg eglurder a sefydlogrwydd ar lefel y DU. Er gwaethaf fy ngalwadau cyson a pharhaus ar Lywodraeth y DU, mae'n amlwg nad yw Cymru'n gydradd â rhannau eraill o'r DU mewn perthynas ag ynni. Gwelwyd hyn yn amlwg yn y Gyllideb ddiweddar.

Mae hefyd yn amlwg bod cyd-destun rheoleiddiol y DU yn cyflwyno peryglon gwirioneddol ac uniongyrchol i weithrediad busnes yng Nghymru. Rhaid bod yn gadarn ar faterion fel costau ynni, gwelliannau i'r grid, rheoleiddio marchnadoedd, datblygu ynni adnewyddadwy, a'r diwydiannau dwys o ran ynni os ydym am sicrhau newidiadau sy'n angenrheidiol ar gyfer cynaliadwyedd busnesau yn y dyfodol.

Wrth ochr ac yng nghyd-destun y cyhoeddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae'n hanfodol i Gymru fod yn gadarn ac yn gyson wrth lunio'r agenda ar bwerau cydsynio newydd a hefyd wrth ysgogi camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar ynni. Rhaid symud ymlaen â'r camau gweithredu hyn o fewn fframwaith arloesi a fydd yn ein galluogi i gael system ynni ddoethach ac effeithlon yng Nghymru.

Y Weledigaeth ar gyfer Ynni

Mae'n gweledigaeth ar gyfer ynni'n glir, fel a ganlyn:

  • diogelu a manteisio i'r eithaf ar ynni yng Nghymru drwy arweiniad cryf ar draws y llywodraeth;
  • manteisio ar y newid i gynhyrchu ynni carbon isel, i gael y budd mwyaf posibl i fusnesau, aelwydydd a chymunedau Cymru;
  • cynnal amgylchedd cystadleuol a chefnogol i fusnesau er mwyn sicrhau buddsoddiad a chyflenwad cynaliadwy;
  • ceisio sicrhau cydraddoldeb a mwy o ddylanwad o fewn y DU a thu hwnt i Gymru a'i buddiannau.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu adeiladu ar gynnydd presennol a sicrhau newid sylweddol wrth gyflawni ymyraethau, camau gweithredu a pholisïau sy'n arwain at Gymru ddoeth o ran ynni, sy’n manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd economaidd - drwy ddatblygiadau cynhenid a denu mewnfuddsoddiad. Bydd angen agwedd integredig ac ystwyth tuag at bolisi ynni a datblygiadau ynni ar draws nifer o themâu pwysig.

Rydym am sicrhau’r manteision gorau o gynhyrchu trydan a chyflenwi tanwydd ar raddfa fawr gan ddefnyddio adnoddau'n effeithlon . Mae hyn yn golygu manteisio i’r eithaf o bob buddsoddiad yng Nghymru mewn ynni niwclear - a allai gyfrannu £5.7bn at GVA economi Cymru rhwng 2013 a 2033.  Mae’n golygu hefyd cael y manteision mwyaf o ynni adnewyddadwy, dulliau modern o gynhyrchu trydan o lo a nwy a therfynellau nwy hylif, purfeydd a phorthladdoedd proffidiol. Rydym am weld cymysgedd o amrywiol ddulliau cynhyrchu yn arwain at gyflenwad fforddiadwy a diogel.

Mae'n amlwg bod rhaid i fusnesau bach a mawr fabwysiadu mwy o raglenni arbed ynni ac adnoddau, ac mae cyfle iddynt wneud hynny gyda mwy o ynni'n cael ei gynhyrchu ar safleoedd ac wrth i sector cynnyrch a gwasanaethau gwyrdd gryfhau o hyd.  Rydym yn awyddus i weld hyn yn digwydd yng nghyd-destun cartrefi, cymunedau, trefi a rhanbarthau sy'n defnyddio ynni'n ddoeth, gan wneud y defnydd gorau o asedau cyhoeddus sy'n arddangos y dechnoleg ddiweddaraf ac ysgogi, lle bynnag y bo'n bosibl, mwy o gynhyrchu gwasgaredig dan berchnogaeth leol.

Yn sylfaen i'r dyheadau hyn mae'r angen dwys i roi sylw i faterion yn ymwneud â'r grid trydan. Mae diffyg capasiti'r grid yn mygu twf ac yn peryglu hyfywedd busnesau a chymunedau ar draws Cymru. Felly rydym yn bwriadu herio sefyllfa bresennol y DU o ran trosglwyddo a dosbarthu, a cheisio rhwydweithiau modern, sy'n ateb y diben yng Nghymru.


Yn yr un modd, mae'n amlwg na fydd Cymru na gweddill y byd yn cyflawni amcanion lliniaru'r newid yn yr hinsawdd heb arloesedd a phartneriaethau o'r radd flaenaf mewn prifysgolion a diwydiant.  Rydym yn benderfynol o sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar wyddoniaeth ac arloesi'n adlewyrchu hyn er mwyn creu systemau ynni carbon a chost isel.

Y Camau Nesaf

Gan ymateb yn uniongyrchol i alwadau gan fusnesau Cymru, rwyf wedi sefydlu Uned Ynni Cymru newydd a fydd, mewn un tîm, yn canolbwyntio a chrynhoi polisi ynni Llywodraeth Cymru a'r gwaith o'i gyflawni mewn ffordd effeithiol.

Rwy'n hyderus bod creu'r tîm hwn yn arwydd clir i'r diwydiant a'r rhanddeiliaid fy mod yn bwriadu cydio ym mhob cyfle sy'n codi ym maes ynni drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth ar draws y llywodraeth.

Gan weithio gyda'r diwydiant bydd yr Uned yn adeiladu ar gynnydd presennol i gefnogi twf yn y Sector Ynni a'r Amgylchedd. Bydd pwyslais arbennig ar fanteisio ar fuddiannau enfawr posibl buddsoddiadau mewn ynni niwclear yng Nghymru ac ar hyd y ffin.  Bydd yr Uned hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i barhau’r gwaith o symud yr agenda Twf Gwyrdd ymlaen.

Yn unol â'n gweledigaeth ar gyfer ynni, rwyf wedi cyfarwyddo'r uned i ddechrau ar unwaith ar y gwaith o ddiweddaru a datblygu'r polisi ynni er mwyn adlewyrchu dyheadau Cymru a'r system ynni'n llawn - gan gynnwys cynhyrchu ynni carbon isel, seilwaith, lleihau'r galw, a symud oddi wrth danwydd ffosil.

Bydd y tîm nawr yn gweithio gyda'r diwydiant a chyrff sy'n eu cynrychioli er mwyn diffinio'r blaenoriaethau craidd sydd angen eu pwysleisio er mwyn sicrhau safbwynt Cymru ar lefel y DU a gosod y cyd-destun ar gyfer buddsoddiad. Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i weld yn glir pa gymorth sydd ei angen o ran yr amrywiaeth o sgiliau, y gadwyn gyflenwi, busnesau ac Ymchwil a Datblygu er mwyn manteisio ar botensial ynni Cymru.

Rhai o'r prif feysydd polisi a chyflawni yr wyf wedi gofyn i'r tîm roi blaenoriaeth iddynt yw ynni morol (gan gynnwys parthau arddangos ac amrediad llanw), y grid, tanwyddau ffosil, ffermydd gwynt ar y tir a systemau carbon isel. 

Byddaf yn darparu ddiweddariadau dros y misoedd nesaf ac yn cyhoeddi datganiad ynghylch ein cynnydd erbyn toriad yr haf. Byddaf hefyd yn sôn am ein gwaith ar draws Llywodraeth Cymru i gyfathrebu ynghylch cynnwys a phwysigrwydd y rhaglen hon.