Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 24 Ebrill 2019, roedd Unseen wedi cyhoeddi Asesiad Blynyddol 2018 o Linell Gymorth Caethwasiaeth Fodern. Mae'r Asesiad yn cynnwys yr holl adroddiadau ar achosion o gaethwasiaeth fodern a ddigwyddodd yn 2018 ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig (DU).

Cafodd y Llinell Gymorth ei sefydlu ym mis Hydref 2016, fel y prif gyswllt ar gyfer unrhyw fater sy'n ymwneud â chaethwasiaeth fodern yn y DU. Mae'r ffordd hon o weithio'n seiliedig ar egwyddor gweithio mewn partneriaeth a chydweithredu i drechu'r drosedd ofnadwy hon.

Mae Unseen yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y DU a'r Llywodraethau datganoledig, Heddluoedd y DU, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Llu Ffiniau'r DU,  yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur, Sefydliadau Anllywodraethol, grwpiau cymunedol a'r gymuned fusnes. Mae Unseen yn ceisio datblygu gwell dealltwriaeth o'r modd y mae caethwasiaeth fodern yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl, fel y gellir cymryd camau effeithiol ac amserol i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae Unseen yn ceisio cyrraedd y bobl hynny sydd methu cyflwyno'u hunain, neu sydd weithiau'n anfodlon gwneud hynny, er mwyn adrodd am eu hamgylchiadau. Yn 2018, roedd Unseen wedi ehangu eu cyfryngau cyfathrebu ar gyfer y Llinell Gymorth drwy gyflwyno ap Unseen a gafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â BT.

Yn 2018, roedd 62% mwy o alwadau i'r Llinell Gymorth o'i chymharu â 2017. Mae'r adroddiad diweddaraf yn cadarnhau bod 6,012 o alwadau wedi'u derbyn ac o ganlyniad cafwyd gwybod am 7,121 o ddioddefwyr posibl; a 264 ohonynt yn ddioddefwyr posibl o Gymru. Yn dilyn archwiliad pellach, roedd y galwadau wedi cychwyn 1,849 o achosion o Gaethwasiaeth Fodern, a oedd yn cynnwys 63 o achosion yng Nghymru.

Mae'r Llinell Gymorth yn cael ei hunan-ariannu, ac o ganlyniad mae'n amlwg yn gallu parhau i fod yn annibynnol ac yn gyfrinachol, sy'n holl bwysig. Mae'r agweddau hynny yn hanfodol iddi weithredu'n effeithiol. 

Mae ein Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru yn cydweithio'n agos ag Unseen i'w helpu i hybu'r Llinell Gymorth. Nod y Llinell Gymorth yw cynyddu lefelau o ran adrodd am droseddau sydd yn arwain at gael gwybod am fwy o ddioddefwyr i'w hachub, a lle bo modd at erlyn troseddwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cymorth holl bwysig y mae'r Llinell Gymorth yn ei gynnig i ddioddefwyr. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag Unseen i hyrwyddo'r Llinell Gymorth a'r cyfraniad hanfodol y mae'n ei wneud i fynd i'r afael â throsedd sy'n cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.

LLINELL GYMORTH CAETHWASIAETH FODERN – 08000 121 700

Dolen i Asesiad Blynyddol 2018 o Linell Gymorth Caethwasiaeth Fodern:

https://www.modernslaveryhelpline.org/uploads/20190424042048980.pdf