John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Rwy’n ysgrifennu i hysbysu Aelodau’r Cynulliad ein bod wedi dynodi’r gyfran gyntaf o fannau tawel trefol mewn crynodrefi (ardaloedd trefol mawr) o dan y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol (2002/49/EC). Mae’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys yn yr Aelod-wladwriaethau ddynodi mannau tawel yn eu cynlluniau gweithredu sŵn amgylcheddol, a nodi hefyd unrhyw gamau gweithredu a fydd yn amddiffyn y mannau tawel hynny rhag sŵn. Yn ein Rhaglen Lywodraethu fe ymrwymon ni i weithredu pob Cyfarwyddeb o’r fath yn effeithiol ac effeithlon yng Nghymru.
Ar ôl ymgynghori ynglŷn â’r weithdrefn ar gyfer dynodi mannau tawel, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r weithdrefn gymeradwy ym mis Mai 2011. Ein polisi ni, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yw rhoi blaenoriaeth i ddynodi mannau gwyrdd trefol o ansawdd uchel sy’n dawel ac heddychlon ac felly’n llesol i’r trigolion lleol. Gan amlaf dewiswyd mannau a allai, ymhen amser, wneud cais am Wobr y Faner Werdd.
Unwaith y dynodir ardal yn fan tawel, bydd yn ofynnol i bolisïau cynlluniau datblygu ystyried yr angen i amddiffyn y man tawel rhag unrhyw gynnydd mewn sŵn a rhoi ystyriaeth arbennig i effeithiau unrhyw ddatblygiad cyfagos a allai achosi sŵn.
Enwebwyd llefydd i’w dynodi’n fannau tawel o fewn awdurdodau lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd a Bro Morgannwg. Roedd yr awdurdodau wedi cyflwyno ffurflenni yn disgrifio rhinweddau heddychlon y mannau hyn. Rhoddwyd blaenoriaeth i ymgynghori ynghylch y mannau sy’n agored i drigolion lleol ac yn bodloni’r meini prawf gorfodol a gyhoeddwyd yn ein gweithdrefn, gan gynnwys gofyniad yn ymwneud â lefel y sŵn ar y mapiau sŵn a gyhoeddon ni yn 2007. Gan nad ydym wedi cael unrhyw ymateb gwrthwynebus, gofynnais i’m swyddogion restru’r holl ardaloedd yr ymgynghorwyd arnynt fel mannau tawel dynodedig yn y cynlluniau gweithredu presennol ar gyfer crynodrefi.
Cynhelir ail rownd y broses mapio sŵn, yn unol â’r Gyfarwyddeb, yn nes ymlaen eleni, ac wedi hynny byddwn yn ymgynghori ynghylch dynodi ail gyfran o fannau tawel, yn ardal Casnewydd.
Nid yw’r Gyfarwyddeb ond yn darparu ar gyfer mannau tawel yn y crynodrefi trefol mwyaf, sydd â phoblogaeth o 100,000 neu fwy. O ganlyniad, nid yw llawer o drefi llai Cymru wedi’u cynnwys yn y fenter bresennol. Fodd bynnag, fel y cyhoeddais yr wythnos diwethaf, rwyf wedi rhoi £500,000 ar gael i dreialu cynllun grantiau i awdurdodau lleol, y gellir ei ddefnyddio i wella’r ddarpariaeth o fannau gwyrdd, tawel mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru. Byddwn hefyd yn adolygu’r fenter mannau tawel unwaith y bydd wedi sefydlu i weld sut y gall lywio polisïau ar draws Cymru i hyrwyddo’r ddarpariaeth o fannau gwyrdd deniadol a heddychlon lle bynnag y mae fwyaf eu hangen.
Dyma’r mannau gwyrdd cyntaf i gael eu dynodi:
Cyngor Bro Morgannwg
- Parc Belle Vue
- Penarth Head Lane
- Caeau Chwarae Victoria
- Golden Gates
- Parc Alexandra
Cyngor Caerdydd
- Parc y Mynydd Bychan
- Parc Thompson
- Parc Caedelyn
- Parc y Rhath (wild gardens, lake and botanical gardens)
- Gerddi Pleser Parc y Rhath
- Cae Hamdden Parc y Rhath
Dinas a Sir Abertawe
- Parc Cwmdonkin
- Dunvant Park
- Llyn Fendrod
- Parc Llewellyn
- Parc Morriston
- Ystumllwynarth
- Parc Ravenhill
- Parc Underhill
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Parc Coffa Talbot
- Parc Vivian
- Adfeilion Abaty Glyn-nedd
- Parc Mount Pleasant, Melin
- Sgiwen
- Shelone Woods
- Parc Baglan
- Gerddi Victoria
- Church Place
- Parc y Brenin George V, Pontardawe