Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf yn gosod Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), ynghyd â’r Memorandwm Esboniadol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Diben y Bil yw sefydlu’r fframwaith cyfreithiol y mae ei angen ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol, y bwriedir iddynt ddechrau yn Ebrill 2018.


Mae’r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ac yn cyflwyno pwerau a dyletswyddau i’w alluogi i gasglu a rheoli trethi datganoledig. Caiff dyletswyddau a hawliau cyfatebol eu cyflwyno i drethdalwyr.


Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno ffurflenni trethi a’r ddyletswydd i gadw cofnodion gan drethdalwyr, a chyflawni ymholiadau ac asesiadau gan CCC i benderfynu swm y dreth ddatganoledig sy’n ddyledus. Bydd gan CCC bwerau cymaradwy i awdurdodau trethi eraill yn y DU er mwyn i’r swyddogaethau gael eu cyflawni yn gyson ac yn gynhwysfawr.


Mae’r Bil yn darparu hefyd y caiff Gweinidogion Cymru bennu i bwy y caiff ACC ddirprwyo ei swyddogaethau. Cyhoeddais y ffordd ymlaen a oedd orau gennyf ynghylch pwy ddylai gasglu a rheoli trethi ar 30 Mehefin.


Yn olaf, mae’r Bil yn cynnwys pwerau cynhwysfawr ar gyfer ymchwiliadau sifil a gorfodi ac yn darparu ar gyfer cyflwyno pwerau ymchwilio troseddol a gorfodi i ACC. Mae hyn yn cynnwys pwerau sy’n caniatáu i ACC fynnu cael gwybodaeth a chael mynediad i fangreoedd a’u harchwilio. Ochr yn ochr â hyn, mae dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau.


Mae’r dull gweithredu mewn perthynas â’r Bil hwn, a’r gwaith paratoi ar lunio cynigion ar gyfer y trethi datganoledig, yn tanlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i weithio gyda byd busnes i greu economi sydd ymhlith y goreuon yn y byd, wedi’i ategu gan system o’r radd eithaf ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Yn allweddol, mae datblygu ein trefniadau trethi wedi dilyn prif egwyddorion Llywodraeth Cymru o ran trethi:

  • Tegwch
  • Symlrwydd
  • Cefnogi twf a swyddi
  • Sefydlogrwydd a sicrwydd

Credaf fod y Bil yr ydym yn ei gyflwyno heddiw’n ymgorffori’r egwyddorion hyn ac edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Cynulliad ar ddarpariaethau’r Bil yn ystod y broses graffu yn y misoedd sydd i ddod.


Mae gwybodaeth bellach am y Bil ar gael mewn taflen ffeithiau.