Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Ym mis Mawrth, rhoddais ddiweddariad i Aelodau ynglŷn â gweithredu’r Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Throseddwyr Benywaidd. Roedd y diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi cynlluniau gweithredu wedi’u diweddaru a oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn nodi ein rhaglen waith at y dyfodol.
Ers mis Mawrth, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud gyda’r rhaglen Glasbrintiau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Dadansoddiad o anghenion hyfforddi Cymru gyfan, a gwblhawyd ar draws y gwasanaethau statudol ac anstatudol sy’n gweithio gyda menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r dadansoddiad hwn wedi llywio datblygiad fframwaith hyfforddiant, ymarfer sydd wedi’i deilwra i ymateb i’r rhywiau, a phecyn hyfforddiant yn ymwneud â sgiliau sy’n seiliedig ar drawma. Bydd y rhain yn cael eu treialu erbyn diwedd y flwyddyn.
- Mae’r gwasanaeth ‘Ymweld â Mam’ wedi dechrau yn HMP Eastwood Park ac HMP Styal, fydd o gymorth i baratoi’r ffordd i famau o Gymru gynnal perthynas gadarnhaol â’u plant drwy gydol eu dedfryd yn y carchar. Mae’r prosiect Ymweld â Mam yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.
- Datblygu manyleb gwasanaeth diwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Awdurdod Iechyd Cwm Taf, a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Bydd y gwasanaeth yn gweithredu’r model Cymru gyfan sydd wedi’i arwain gan seicoleg ac sy’n seiliedig ar drawma i dimau Troseddau Ieuenctid,
- Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi comisiynu Gwobr Ymarfer Effeithiol ar ymarfer sy’n seiliedig ar drawma, sy’n cynnwys sicrhau bod lleoedd wedi’u hariannu ar gael i holl dimau Troseddau Ieuenctid yng Nghymru.
Yn ogystal, rwyf i a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gydweithio er mwyn cyflawni canlyniad a fydd yn sicrhau bod plant o Gymru sydd o fewn y systemau lles a chyfiawnder yng Nghymru wedi’u cyd-leoli yn llawn yn yr un adeilad / safle. Bydd hyn yn caniatáu iddynt aros yn agos i’w cymunedau. Mae Swyddogion yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddatblygu opsiynau ar gyfer darpariaethau’r dyfodol, ac yn gweithio ar sut y gellir gwireddu’r gydweledigaeth ar gyfer gofal diogel i blant o Gymru.
Mae’r Ganolfan Breswyl i Fenywod arfaethedig hefyd yn elfen graidd o’r Glasbrint Troseddwyr Benywaidd. Rydym yn parhau i feithrin cysylltiadau agos gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sydd yn gyfrifol am adnabod safleoedd posibl, ar y rhaglen bwysig hon o waith. Mae Model Cynnwys wedi’i ddatblygu ar gyfer creu cysylltiadau gyda menywod sydd â phrofiad byw o’r system gyfiawnder troseddol. Bydd y model hwn o gymorth i gefnogi dyluniad a gweithrediad canlyniadau allweddol y Glasbrint.
Mae’r holl waith hwn yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein cymunedau yn fwy diogel drwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd ac ofn troseddau. Un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu yw cynyddu nifer yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol o’r 500 sydd ar hyn o bryd, i 600. Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn llygaid ac yn glustiau eu cymunedau, ac maent yn defnyddio dull ataliol a dull datrys problemau er mwyn ymdrin â materion yn eu ardaloedd lleol, gan gynnwys troseddau cyllyll. Rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol i’r pedwar llu Heddlu yng Nghymru, ac mae gweithgareddau recriwtio yn cael eu cynnal gyda’r amcan y bydd y swyddogion ychwanegol yn eu lle erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Er nad yw’r cyfrifoldeb am bolisïau ar droseddu wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, gall sawl maes cyfrifoldeb sydd wedi’u datganoli effeithio ar ddiogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr Heddlu, Awdurdodau Lleol a sefydliadau partneriaid eraill i wella diogelwch cymunedol ledled Cymru. Bob chwarter, rwyf i, neu’r Prif Weinidog yn cadeirio Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru sy’n galluogi’r holl sefydliadau i ddod at ei gilydd i drafod materion sy’n dod i’r wyneb a materion parhaus.
Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Plismona yng Nghymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill drwy Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru i ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Ein hamcan ar y cyd yw y bydd pawb sydd yn dod i gysylltiad â’r system gyfiawnder troseddol yn cael triniaeth a chanlyniadau cyfartal, beth bynnag fo’u hethnigrwydd. Rydym yn parhau i ddefnyddio ein dylanwad lle bynnag y gallwn er mwyn cyflawni newid systematig a gwella canlyniadau i bobl Cymru.
Mae ein perthynas gyda’n partneriaid cyfiawnder allweddol a darparwyr gwasanaeth allweddol yng Nghymru wedi cryfhau ymhellach yn ystod y pandemig. Tra bod cyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, mae ein dull cydweithredol parhaus o weithio yn hanfodol os ydym am symud ymlaen gyda’n hymrwymiadau i leihau trosedd a lleihau aildroseddu. Rydym wedi croesawu ailuno’r gwasanaeth prawf yng Nghymru, ac rydym yn archwilio’r opsiynau i weithio mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Prawf a’r trydydd sector. Mae hyn er mwyn cyflawni a symud ymlaen gyda rhai o’n hymrwymiadau polisi yng Nghymru drwy’r cynlluniau cymunedol a’r cynlluniau gwaith di-dâl.
Byddaf yn parhau i gyfarfod â Gweinidogion Cyfiawnder y DU i drafod a symud ymlaen â’r gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r glasbrintiau a materion cyfiawnder ehangach. Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynnydd.