Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy ngohebiaeth ag Aelodau’r Cynulliad ar 5 Ebrill, dywedais fod casgliadau adroddiad Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin, a gyhoeddwyd ar 28 Mawrth 2019, yn peri cryn bryder i mi.

Mae fy swyddogion yn parhau i gydweithio’n agos â Bwrdd Cyfiawnder Cymru a Gwasanaeth Ieuenctid y Ddalfa, wrth i’r ddau sefydliad, ynghyd ag eraill, geisio delio â chasgliadau’r adroddiad, a hynny ar fyrder.

Codais y mater â’r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, Edward Argar AS, yn ystod cyfarfod ar 24 Ebrill 2019, a chefais sicrwydd, eto, fod sawl cam pwysig eisoes wedi’i gymryd i fynd i’r afael â chasgliadau’r adroddiad, gan gynnwys cynnig cymorth i awdurdodau lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Phen-y-bont ar Ogwr gyda rheoli’r broses ddadelfennu a chreu Timau Troseddau Ieuenctid ar wahân ar gyfer pob un o’r tri awdurdod.

Mae Llywodraeth Cymru am weld y gwasanaethau gorau posib ar waith i gefnogi adferiad ac adsefydliad troseddwyr ifanc ac i atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o droseddu. Parhawn i gydweithio’n agos â’r ystod lawn o sefydliadau partner i sicrhau ymateb effeithiol a gwelliannau lle bo angen hynny.