Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn y Gynhadledd Fawr haf diwethaf, fe wnes i ddatganiad (12 Tachwedd) yn amlinellu rhai o’r camau cychwynnol y byddem yn eu cymryd i ymateb i’r heriau a nodwyd yn y Gynhadledd.  Mae ein Strategaeth, Iaith fyw: iaith byw yn parhau i lywio’r hyn yr ydym yn ei wneud ac mae rhai datblygiadau pwysig wedi cael eu gwneud.  Mae’r heriau rydym yn eu wynebu yn allweddol felly ni allwn laesu dwylo.  Er y byddaf yn gwneud datganiad polisi llawn yn y gwanwyn, mae’n amserol i roi diweddariad i Aelodau nawr.  

Cafodd y set gyntaf o safonau drafft o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 eu cyhoeddi ar 6 Ionawr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cychwyn ymchwiliad i’r Safonau gyda’r cynghorau sir,  awdurdodau’r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Rydym ni yn y llywodraeth eisoes wedi dechrau ar y gwaith o adolygu ein trefniadau er mwyn cryfhau ein defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad, ac rydym hefyd yn ystyried sut i fesur effaith penderfyniadau polisi ac ariannol ar y Gymraeg.

Mae’r rheoliadau penodi bellach yn eu lle ar gyfer Tribiwnlys y Gymraeg, ac rydym wedi dechrau ar y broses o benodi’r Llywydd. Bydd y Tribiwnlys yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn ac rwy’n gweld hyn fel rhan arwyddocaol o’r fframwaith sefydliadol sy’n cwmpasu’r iaith.

Mae’r maes addysg wedi chwarae rhan enfawr yn hyrwyddo’r Gymraeg a chreu siaradwyr Cymraeg newydd.  Mae’n parhau i fod yn hanfodol i ddyfodol yr iaith.  Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 wedi rhoi Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar sail statudol ac mae’r rheoliadau cysylltiedig  bellach yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau penodol, fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Yn gyfochrog a hyn, rydym wedi cychwyn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth rhieni eu bod yn gallu dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant ym mhob rhan o Gymru.

Ym maes cynllunio, rydym wedi diwygio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20, ac mae canllawiau’n cael eu datblygu i gynorthwyo awdurdodau cynllunio i asesu’r effaith ar y Gymraeg.  Bydd y canllawiau’n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

Mae nifer o adolygiadau pwysig wedi cael eu cwblhau dros y misoedd diwethaf:

  • Cyhoeddwyd adroddiad o waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe wythnos diwethaf. Bydd  Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adroddiad hwn maes o law.
  • Yn ddiweddar rydym wedi neilltuo £90,000 ychwanegol i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni er mwyn iddynt allu gweithredu rhai o argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod a gyhoeddodd ei adroddiad yn yr Hydref.
  • Rydym wedi derbyn argymhellion y grŵp annibynnol a fu’n adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.  Rydym eisoes wedi cychwyn ar y newidiadau.
  • Rydym wedi derbyn yr adroddiad ar Gymunedau Cymraeg, sydd â’r nod o gynyddu nifer y cymunedau ble mae’r Gymraeg yn brif iaith, ac rydym wrthi yn ystyried ein ymateb.
  • Mae Grŵp annibynnol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, wedi bod yn adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Bydd argymhellion yr adroddiad Un Iaith i Bawb, yn cael eu bwydo i’r adolygiad ehangach o’r cwricwlwm. 
  • Bydd  y Grŵp Iaith ac Economi yn adrodd yn fuan.

Bydd yr adroddiadau hyn i gyd yn ychwanegiadau pwysig i’n casgliadau yn dilyn y Gynhadledd Fawr.  Yn naturiol, rwy’n credu mai gweithredu, ac nid geiriau, fydd yn arwain yr agenda yn ei blaen ond maen bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda pholisïau sydd yn seiliedig ar ymchwil gadarn a dealltwriaeth glir o’r heriau.  Fel arall y mae posib y bydd gwaith yn mynd yn ei flaen sy’n ddigyswllt ac yn seiliedig ar ddiffyg dealltwriaeth.

Rwy’n barod wedi nodi pwysigrwydd addysg.  Darparwyd cymorth grant o tua £135 miliwn ers 2009  i gyflawni 17 prosiect mawr ar gyfer adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg. Hefyd, drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddwn yn anelu at gyflawni tua 25 prosiect mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y 5 i 6 mlynedd nesaf. Rydym hefyd wedi buddsoddi arian cyfalaf tuag at adeiladu bloc llety newydd yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Gallaf gadarnhau heddiw grant o £3.5m ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn 2014-15.  Bydd tri deg chwech o sefydliadau yn y sector wirfoddol yn elwa’n uniongyrchol o dderbyn y grant hwn, manylion wedi ei atodi.

Yr her o’n blaenau yw hybu’r defnydd o’r Gymraeg a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gweithio tuag at y nod hwn.  Mae’r her yn parhau i fod yn ddifrifol, ond mae gwaith da yn mynd yn ei flaen.  Mae adroddiad diweddar arbenigwyr Cyngor Ewrop wedi nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at yr iaith, a bydd hyn yn parhau.

Nid ni fel Llywodraeth Cymru yw’r unig gorff sy’n gallu dylanwadu ar ddyfodol y Gymraeg.  Mae gan nifer o gyrff eraill ran i’w chwarae, yn genedlaethol neu lleol, yn sefydliadau, ysgolion, cyflogwyr, teuluoedd ac unigolion.  Mae’r iaith yn rhan ohonom ac mae’n perthyn i bawb.  Mae ganddom ni i gyd ran i’w chwarae wrth sicrhau ei dyfodol.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn y gwanwyn fydd yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn mwy o fanylder.


Grantiau ar gyfer Y Gymraeg 2014-15

Rhieni dros Addysg Gymraeg (RHAG) £35,140

Menter Abertawe £102,145

Menter Bro Ogwr £59,435

Menter Brycheiniog £28,451

Menter Caerdydd (gan gynnwys Menter y Fro a Tafwyl) £134,591

Menter Iaith Caerffili £95,552

Menter Castell Nedd Port Talbot £77,415

CERED £103,068

Menter Iaith Conwy £97,678

Menter Dinbych £81,583

Menter Iaith Sir y Fflint £72,043

Menter Iaith Maelor £36,540

Menter Maldwyn £72,591

Menter Merthyr Tudful £58,400

Menter  Môn £89,132

Menter Iaith Dinefwr £93,000

Menter Cwm Gwendraeth Cyf £87,791

Menter Gorllewin Sir Gar £66,921

Menter Iaith Sir Benfro £90,279

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf   £107,768

Menter Iaith Blaenau Gwent £64,200

Menter Iaith Casnewydd £25,550

Hunaniaith £83,715

Mentrau Iaith Cymru £61,500

Merched y Wawr £84,205

Cymdeithas Eisteddfodau Cymru   £46,036

Eisteddfod Genedlaethol Cymru £543,000

Cynllun Hybu Ardal Aman Tawe (Menter Bro Dinefwr) £38,000

Cynllun Hybu Ardal Aman Tawe (Menter Castell Nedd Port Talbot) £38,000

Gwobr Dug Caeredin £20,300

Dyffryn Nantlle 20/20 £3,000

Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru £89,719

Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig £12,165

Urdd Gobaith Cymru £852,184

Gwallgofiaid £23,000

Plant yng Nghymru £3,000

CYFANSWM   £3,577,097