Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod, a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Mae cyngor sydd bellach wedi dod i law gan y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch yn dangos ei bod yn anodd asesu'n llawn y risg sy’n codi i iechyd y cyhoedd yn sgil nifer yr achosion o amrywiolion y coronafeirws a'u lledaeniad. Ar sail y cyngor hwn, ac er mwyn cymryd ymagwedd gyffredin ar draws y pedair gwlad mewn perthynas â theithio rhyngwladol, rwyf wedi penderfynu bod angen cyflwyno mesurau ychwanegol i reoli'r risgiau hynny.

Mae'r mesurau ychwanegol hyn yn cynnwys system brofi newydd ar gyfer pobl 5 oed neu hŷn sy'n cyrraedd Cymru (yn amodol ar nifer cyfyngedig o eithriadau), sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt drefnu a chael profion ar ddiwrnod 2 ac 8 eu cyfnod o hunanynysu. Bydd methu â gwneud hynny yn drosedd, ac yn eu gadael yn agored i ddirwy. Bydd methu â chael y ddau brawf hefyd yn golygu bod y cyfnod hunanynysu yn cael ei ymestyn i 14 diwrnod.

At hynny, mae mesurau pellach yn cael eu cymryd mewn perthynas â gwledydd sydd eisoes wedi'u nodi fel rhai risg uwch oherwydd cysylltiadau ag amrywiolion o’r coronafeirws ("gwledydd rhestr goch") er mwyn diogelu ymhellach rhag y risg o drosglwyddo gwahanol amrywiolion yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys gwahardd person sydd wedi bod mewn gwlad sydd ar y rhestr goch yn ystod y 10 diwrnod diwethaf rhag dod i Gymru o 4am ar 15 Chwefror. Bydd methu â chydymffurfio â'r cyfyngiad hwn yn drosedd, ac yn eu gadael yn agored i ddirwy. Os bydd teithwyr o'r fath yn cyrraedd porth dynodedig yn Lloegr neu'r Alban, bydd yn ofynnol iddynt ymrwymo i gyfnod cwarantin rheoledig yn unol â'r rheoliadau a ddaw i rym yno ddydd Llun 15 Chwefror 2021.

Ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd o "wledydd rhestr oren" mae eithriadau sectoraidd yn berthnasol ar gyfer categorïau penodol o weithwyr lle nad oes rhaid iddynt hunanynysu. Mae'r rhain yn cael eu gwneud yn fwy cyfyngol a byddant yn cael eu diwygio i fod yn eithriadau sectoraidd sy'n golygu bod angen hunanynysu ond y gall person adael am gyfnod cyfyngedig at ddibenion gwaith.

Mae diwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i'r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon i ddileu'r rhai sydd wedi bod ac ychwanegu'r rhai sydd wedi'u trefnu dros y misoedd nesaf.

Daw'r rheoliadau angenrheidiol i rym am 04:00 ddydd Llun 15 Chwefror.