Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU raglen o doriadau cyllidebol canol blwyddyn i wariant adrannol. Wrth i fanylion y rhaglen hon ddod yn fwy eglur, mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn amlinellu’r goblygiadau i gyllideb Cymru, a fydd yn gweld toriadau o £50 miliwn yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf.
 
Bydd gostyngiad o £43 miliwn yn ein cyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn gyfredol, a gostyngiad o £7 miliwn yn ein cyllideb gyfalaf. Bydd y toriadau direswm hyn, a ddaw ar ben y toriad o 8%, mewn termau gwirioneddol, i’n cyllideb ers cychwyn tymor y Cynulliad hwn, yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau cyhoeddus sydd mor werthfawr inni. Byddant hefyd yn cael effaith barhaol ar economi Cymru a’n seilwaith hanfodol.

Rydym wedi cael rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch amseru’r gostyngiadau i’n cyllidebau a byddwn yn gweithio i sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Daw’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o doriadau pellach wedi i’r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio ar ein cyllideb ar gyfer 2015-16. Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd o ganlyniad i doriadau parhaus Llywodraeth y DU a’i rhaglen anghyfiawn a di-baid o gyni cyllidol.

Mae’n amlwg bod Llywodraeth y DU yn gwneud toriadau i gyllidebau iechyd y cyhoedd, addysg bellach ac uwch, trafnidiaeth a chymunedau. Mae hyn yn dystiolaeth bellach o effaith negyddol polisïau Llywodraeth y DU ar Gymru.

Mae’r Canghellor wedi dewis gwneud y cyhoeddiad hwn cyn cyllideb yr haf, felly nid yw’r effaith lawn ar ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol yn gwbl amlwg eto. Yn dilyn hyn, bydd adolygiad o wariant a fydd yn dangos effeithiau parhau â chyni cyllidol yn y tymor hwy.

Byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn pobl Cymru rhag y toriadau ysgubol a diangen sy’n cael eu gorfodi arnom. Ein nod yw cadw effaith y toriadau hyn, a’r rhai sydd i ddod, mor fach â phosibl, a sicrhau setliad cyllid tecach i Gymru.