Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 16 Tachwedd, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol y DU bod achos o ffliw adar pathogenig iawn wedi taro fferm bridio hwyaid yn Nwyrain Swydd Efrog.  Pan gafwyd gwybod gyntaf am yr achos ar 14 Tachwedd, aeth Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol y DU ati i greu parth cyfyngiadau o gwmpas y fferm sy’n gwahardd symud dofednod a chynnych dofednod yn y parth heb ganiatâd.  Mae’r 6,000 o hwyaid sydd ar y fferm yn cael eu difa trwy ddulliau dyngarol heddiw.  Mae labordy’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn Weybridge wedi cyhoeddi heddiw mai teip H5N8 yw’r clefyd ac mae ymchwiliad wedi dechrau i weld o ble ddaeth yr achos ac a oes cysylltiad rhyngddo â’r achosion yn yr Iseldiroedd a’r Almaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n glos â Defra ac â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru a’i swyddogion yn cyfrannu’n llawn at y trefniadau argyfwng a roddwyd ar waith pan sylweddolwyd bod amheuon cryf y gallai fod yn achos o ffliw’r adar.  Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r llywodraethau datganoledig eraill yn y cyfarfodydd dyddiol sy’n cael eu trefnu gan Defra.  Mae gan bob un o wledydd y DU gynlluniau wrth gefn i rwystro clefydau rhag lledaenu.  Cyhoeddwyd fersiwn ddiweddaraf Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Anifeiliaid Egsotig ym mis Hydref (gweler y ddolen isod) ar ôl dysgu’r gwersi a ddysgwyd yn yr ymarferiad Prydeinig diwethaf, Walnut, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2013.

Mae Public Health England gyda Defra yn cymryd camau i sicrhau bod y rheini sy’n gweithio ar y fferm a phobl yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn ddiogel.  Mae Public Health England wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd yn fach iawn.

Mae allforion dofednod a chynnyrch dofednod wedi’u gwahardd ac mae swyddogion yn ymchwilio i’r effaith bosibl ar y diwydiant dofednod yng Nghymru.

Rwy’n cadw golwg barcud ar y sefyllfa ac rwy’n cael adroddiadau rheolaidd amdani.  Mae gan lywodraethau’r DU hanes o reoli a diddymu clefydau adar yn llwyddiannus ac rwy’n hyderus bod gennyf innau’r cynlluniau angenrheidiol i ddelio â sefyllfa debyg yng Nghymru.