Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Tachwedd y llynedd, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bod yn derbyn argymhellion rhan gyntaf Comisiwn Silk Llywodraeth y DU yn fras, a chyflwynwyd Bil Cymru i Senedd y DU ym mis Mawrth eleni. Ar hyn o bryd mae Bil Cymru yn mynd drwy Senedd y DU, ac yn ogystal â darparu’r gallu i fenthyg er mwyn ariannu buddsoddiadau, bydd y Bil yn galluogi'r Cynulliad i ddeddfu er mwyn disodli Treth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi. Bydd y trethi hyn yn peidio â bod yn weithredol yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Bydd hyn yn newid hanesyddol i Gymru. Bydd gan Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad y gallu i ddatblygu trethi yng Nghymru sy'n addas ar gyfer amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru. Rwyf wedi datgan yn glir mai fy egwyddorion ar gyfer y trethi newydd hyn yw y byddant yn deg i fusnesau neu unigolion sy'n talu trethi; yn syml gyda rheolau clir sy'n ceisio lleihau costau cydymffurfio a  chostau gweinyddol; yn cefnogi twf a swyddi, a fydd maes o law yn helpu i fynd i'r afael â thlodi; ac yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr, gydag ymgynghoriad priodol â rhanddeiliaid cyn gwneud unrhyw newidiadau.

Ddoe, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi yn nhymor presennol y Cynulliad. Bydd y ddeddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi yn darparu fframwaith llywodraethu clir a chadarn ar gyfer gweinyddu trethi Cymru. Bydd yn sefydlu corff corfforaethol syml, a fydd yn gweithredu ar wahân i'r Gweinidogion. Bydd gan y corff gyfrifoldeb cyfreithiol dros gasglu a rheoli trethi yng Nghymru, a sicrhau bod y trethi yn cael eu casglu a'u rheoli mewn modd effeithlon ac effeithiol. Bydd y Bil hefyd yn sicrhau bod gennym brosesau a gweithdrefnau i amddiffyn trethdalwyr a'u hawliau wrth dalu'r trethi hyn yn llawn ac mewn modd priodol. Byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn ar y cynigion deddfwriaethol hyn ar 16 Medi eleni. Dyma un o'r camau cyntaf tuag at sefydlu Trysorlys yng Nghymru.  

Rwy'n disgwyl y bydd y ddeddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi yn cael ei chyflwyno yn haf 2015. Dylai'r pwerau casglu a rheoli trethi gael eu deall yn iawn yng nghyd-destun y trethi penodol a gesglir ganddynt. Felly yng ngwanwyn 2015, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriadau ar ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi. Mae'n bwysig dros ben ein bod yn datblygu ein trethi mewn ffordd sy'n addas i Gymru, ac felly byddwn yn ymgynghori mewn modd agored ac eang ar y cam hwn, gyda'r bwriad o osod sylfaen ar gyfer deddfwriaeth yn gynnar yn nhymor nesaf y Cynulliad. Rwy'n rhagweld y bydd yr amseriad hwn yn ein galluogi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth ar gyfer sefydlu'r trethi hyn yn cael eu pasio mewn pryd i'w gweithredu'n llawn cyn eu bod yn dod i rym ym mis Ebrill 2018.

Rwyf wedi gweithio'n agos gyda'r Grŵp Cynghori ar Drethi i ddatblygu ein dull gweithredu a'n cynigion, a byddaf yn parhau i weithio gyda nhw wrth inni nesáu at gael deddfwriaeth.