Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd Datganiad Polisi Caffael Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yn amlinellu 10 egwyddor ar gyfer caffael llesiant i Gymru. Er bod y datganiad yn ei gyfanrwydd yn cefnogi datgarboneiddio, mae egwyddor 6 yn dweud yn benodol:

"Byddwn yn gweithredu i atal newid yn yr hinsawdd drwy flaenoriaethu lleihau allyriadau carbon ac allyriadau sero drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy er mwyn cyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero-net yng Nghymru erbyn 2030.

Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud i helpu’r Sector Cyhoeddus ehangach yng Nghymru i ddatgarboneiddio drwy gaffael. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys cyhoeddi Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 06/21: Datgarboneiddio drwy gaffael – Ystyried Cynlluniau Lleihau Carbon sy’n rhoi cyfarwyddyd i ddefnyddio Cynlluniau Lleihau Carbon ar gyfer unrhyw gontractau caffael gwerth mwy na £5 miliwn a drefnir gan Lywodraeth Cymru o fis Ebrill 2022 ymlaen. Mae'r WPPN hwn yn hyrwyddo Cynlluniau Lleihau Carbon fel arfer gorau i gyrff yn Sector Cyhoeddus Cymru sydd hefyd wedi ymrwymo i'r daith i gyrraedd sero net.

Cafodd camau i weithredu ar ddatgarboneiddio eu cefnogi hefyd gan WPPN 12/21 ‘Mynd i’r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi’ sy'n rhoi arweiniad i Sector Cyhoeddus Cymru ar strategaethau i weithredu ar allyriadau sy'n deillio o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu caffael.

Byddwn yn mynd ati yn y man i gyhoeddi fersiynau diwygiedig wedi’u diweddaru o'r offer Asesu Risg Cynaliadwyedd sy'n cynnig cymorth wrth gynllunio prosesau caffael ar gyfer contractau nwyddau a gwasanaethau drwy annog y rheini sy’n caffael i ystyried risgiau a chyfleoedd o ran cynaliadwyedd.

Bydd y Bil arfaethedig Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus hefyd yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gaffael mewn modd cymdeithasol gyfrifol ac mae’n debygol y bydd yn cynnwys adroddiadau ar leihau allyriadau carbon.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnal ymarfer caffael a fydd yn darparu cynllun peilot ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Gaffael (PCoE) a fydd yn rhannu’r arferion gorau ac yn rhoi golwg byw ar bolisi caffael yng Nghymru, ac yn galluogi polisi a hyfforddiant yng Nghymru. Bydd dau gam i'r cynllun peilot, sef y cam alffa a'r cam beta: bydd y cam alffa yn adrodd ar yr hyn y gellir ei gyflawni ac yn darparu tystiolaeth a fydd yn sail i benderfyniad i fwrw ymlaen â’r cynllun peilot. 

Y maes polisi cychwynnol y bydd y Ganolfan Ragoriaeth Caffael yn canolbwyntio arno fydd "Cymru Sero Net" ac, yn benodol, ar ganllawiau polisi y manylir arnynt yn Nodyn Polisi Caffael Cymru 12/21: Datgarboneiddio drwy gaffael – Mynd i'r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi. Bydd angen i'r cynllun peilot Gwasanaethau sicrhau gwelliant pendant yn y maes hwnnw erbyn diwedd y cam alffa er mwyn darparu’r dystiolaeth ar gyfer symud ymlaen i'r cam beta.