Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at Gwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi 2015. Bydd Cymru’n cynnal 8 gêm yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Rwy’n falch iawn, felly, o gyhoeddi partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru ac Amgueddfa Cymru i gyflawni rhaglen arloesol i ddathlu’r digwyddiad yng Nghymru.

Mae rygbi yn rhan o’n hunaniaeth ddiwylliannol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o gampau’r tîm ar y cae. Bu i lawer o’n chwaraewyr gorau ddechrau gyda’u clybiau lleol – clybiau sy’n dangos cryfder y cysylltiad rhwng rygbi a’r gymuned a’r ffordd y gall y gêm gefnogi pobl ifanc. Fy mwriad, nawr, yw dod ag elfennau allweddol fy mhortffolio at ei gilydd i ddathlu rôl rygbi yn ein treftadaeth drwy dri datblygiad, gan adael etifeddiaeth ddigidol ar gyfer y dyfodol.

Yn ddiweddar, ymunais â Chadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru i lansio cystadleuaeth ysgrifennu creadigol dwyieithog i blant, sy’n dwyn y teitl ‘Storïau Rygbi’. Cawsom help gan blant Ysgol Gynradd Adamsdown i lansio’r gystadleuaeth. Yr her yw ysgrifennu cerddi, storïau a storïau digidol am rygbi. Caiff y goreuon eu dewis gan banel o feirniaid a’u cyhoeddi ym mis Medi. Mae ysgrifennu creadigol yn gallu datblygu llythrennedd a llythrennedd digidol - mae’n ffordd o ddatblygu’r dychymyg ac annog plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am y byd sydd o’u cwmpas. Bydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru yn cynnal gweithgareddau i annog plant a phobl ifanc rhwng 7 a 16 oed i gymryd rhan. Rwyf i’n edrych ymlaen yn arw at glywed am brofiadau rygbi plant a phobl ifanc hyn a chlywed am rôl rygbi yn eu bywydau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth o www.storiaurygbi.cymru.

Mae rygbi’n bwysig iawn i dreftadaeth Cymru, a bydd arddangosfa newydd yn agor ar 8 Medi (4 diwrnod cyn gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd) yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Enw’r arddangosfa fydd ‘Kick offs and Keep-sakes’  a bydd yno sawl eitem nad yw’r cyhoedd wedi eu gweld o’r blaen. Bydd yr arddangosfa yn defnyddio eitemau o archifau Undeb Rygbi Cymru a sawl casgliad arall i adrodd stori rygbi yng Nghymru a pherthynas ein gwlad, drwy’r gêm, â gwledydd eraill y byd. Bydd yn gyfle i hyrwyddo ein treftadaeth gyfoethog i gefnogwyr rygbi o bob cwr o’r byd, wrth iddyn nhw ymweld â Chaerdydd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Rwy’n ymwybodol bod llawer wedi mynegi pryder bod eitemau pwysig o hanes rygbi sydd yn nwylo clybiau lleol mewn perygl o gael eu colli cyn cael eu cofnodi. Rwyf, felly, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Casgliad y Werin Cymru yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru  i gefnogi gwirfoddolwyr i gofnodi a digido eitemau sydd yn y clybiau lleol. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cofnod digidol o hanes y gêm, a’i heffaith ar fywyd yng Nghymru, ar gael ar gyfer y dyfodol.