Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Eleni, thema’r DU ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yw Meithrin Ymdeimlad o Berthyn: Dathlu Pŵer ein Cysylltiadau Cymdeithasol. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae pobl hŷn yn teimlo mwy o ymdeimlad o berthyn yn eu cymunedau na grwpiau oedran iau. Mae hefyd yn nodi bod 38% o bobl dros 65 oed yn gwirfoddoli – y ffigur uchaf o unrhyw grŵp oedran. 

Heddiw, rydym yn cymeradwyo’r rôl hanfodol y mae pobl hŷn yn ei chwarae o ran creu cysylltiadau cymdeithasol ag eraill, o nodio’ch pen a rhoi gwên wrth inni basio dieithriaid i gynnal perthnasoedd cefnogol a pharhaol sy’n datblygu drwy werthoedd a diddordebau cyffredin. 

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar effaith yr undod cymdeithasol hwn, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd cyllid gwerth £1.1 miliwn yn parhau i gael ei ddyrannu i awdurdodau lleol, sef £50,000 yr un ar gyfer cyllido swydd sy’n hyrwyddo Cymru oed-gyfeillgar. Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyrannu ers 2022 ac mae Swyddogion Oed-gyfeillgar yn grymuso pobl hŷn ledled Cymru i gymryd rhan weithredol yn eu cymunedau lleol. Mae’r swyddogion hyn hefyd yn meithrin cysylltiadau cymunedol cryf â sefydliadau’r trydydd sector, gan arwain at gynnal a sefydlu amrywiaeth o weithgareddau lleol gyda phobl hŷn, ac ar eu cyfer.

Er enghraifft, cefais gyfle yn ddiweddar i gyfarfod â’r Valeways Well-being Strollers i ddathlu’r ffyrdd y mae pobl hŷn yn y Barri yn creu cyfleoedd i wneud ffrindiau a mwynhau ymarfer corff ysgafn. Ffurfiwyd y grŵp mewn partneriaeth â grŵp lleol o’r trydydd sector o dan arweiniad gwirfoddolwyr sef Valeways a Thîm Byw’n Iach Cyngor Bro Morgannwg. Mae Swyddog Oed-gyfeillgar Bro Morgannwg wedi helpu i sefydlu rhagor o grwpiau cerdded ledled yr ardal. 

Mae pobl hŷn yn aml yn gofyn am well gwybodaeth am weithgareddau yn eu cymunedau. Trwy ddarparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb i’r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i bobl hŷn feithrin cysylltiadau.

 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran a datblygu polisi arloesol gyda phobl hŷn ac ar eu cyfer. Yn 2021, gwnaethom gyhoeddi’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio a’i nod yw creu ‘Cymru lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y mae pobl hŷn yn eu cael.’ Yn 2008, gwnaethom hefyd sefydlu swydd Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf y byd. Mae’r pedwerydd Comisiynydd, Rhian Bowen-Davies, yn parhau i fod yn eiriolwr cryf dros hawliau pobl hŷn ac yn cymryd rhan weithredol i greu Cymru oed-gyfeillgar. 

Yn gynharach eleni, gwnaethom roi arian i Age Cymru greu fideo o bobl hŷn yn herio’r portreadau negyddol yn ymwneud ag heneiddio sy’n parhau i fod yn gyffredin mewn cymdeithas ac sy’n gallu atal pobl hŷn rhag cysylltu ag eraill a byw bywyd llawn.

Fel y dywed un o’r bobl hŷn sy’n ymddangos yn y fideo, “dw i’n teimlo fel fy mod i wedi diflannu, ry’ch chi’n cael eich anwybyddu pan fyddwch chi’n hen.”

Gyda chymaint o bobl yn dathlu Diwrnod Pobl Hŷn yng Nghymru, ac ar draws y byd, rwy’n datgan yn glir bod angen cydnabod a dathlu cyfraniadau pobl hŷn – mae gan bawb werth ni waeth beth fo’u hoedran na’u hamgylchiadau.