Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni groesawu Mis Hanes LGBTQ+ 2026, rydw i'n cymryd amser i ddathlu'r cyfraniadau mawr mae pobl LHDTC+ wedi'u gwneud – ac yn parhau i'w gwneud – i'n cymunedau, ein bywyd cyhoeddus a'n stori genedlaethol. Mae'r dathliad blynyddol hwn yn ein hannog nid yn unig i ystyried y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud, ond hefyd i adnewyddu ein hymrwymiad i adeiladu Cymru lle gall pawb fyw'n agored, yn ddiogel ac ag urddas.

Mae'r thema eleni, Gwyddoniaeth ac Arloesi, yn ein gwahodd i ddathlu cyflawniadau pobl LHDTC+ y mae eu creadigrwydd, eu chwilfrydedd a'u harweinyddiaeth yn llunio ein dyfodol. Ledled Cymru, mae gwyddonwyr, ymchwilwyr, peirianwyr, addysgwyr STEM ac arloeswyr diwydiant LHDTC+ yn trawsnewid ein dealltwriaeth o'r byd ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i wneud yr un peth.

Mae gwelededd yn bwysig. Mae cynrychiolaeth yn bwysig. I bobl ifanc yn arbennig, gall gweld modelau rôl LHDTC+ ym maes STEM – sy'n hyderus, yn dalentog ac yn falch o bwy ydyn nhw – newid bywydau. Mae eu presenoldeb yn anfon neges bwerus: mae arloesedd yn ffynnu pan fydd pawb yn gallu cymryd rhan, cyfrannu ac arwain.

Mae'r thema eleni, Gwyddoniaeth ac Arloesi, yn rhoi cyfle inni ddathlu pobl LHDTC+ sy'n arwain darganfyddiadau gwyddonol ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Mae Cymru wedi meithrin a datblygu talent wych ymhlith pobl LHDTC+ ym maes STEM. Mae'r peiriannydd electroneg a raddiodd o Brifysgol Caerdydd, Shrouk El‑Attar, sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am gyfuno peirianneg ag eiriolaeth bwerus dros bobl LHDTC+, yn dangos sut mae gwelededd yn trawsnewid ymdeimlad o berthyn pobl ifanc. 

Gwnaeth aelod o staff Science Made Simple ein hatgoffa o'r‑effaith hon, gan nodi sut mae gweld modelau rôl LHDTC+ yn agored mewn ysgolion yn helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu yng Nghymru:

"Mae gwelededd a chynrychiolaeth mor bwysig ... Rwy'n gobeithio, pan fydd plant yn gwylio fy sioeau, eu bod yn teimlo bod lle iddyn nhw yma yng Nghymru."

Mae Cymru yn parhau i gymryd camau pwysig i sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan ganolog o'n system addysg a'n bywyd cyhoeddus. Drwy Gynllun Gweithredu LHDTC+ ar gyfer Cymru, rydyn ni'n gweithio ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid i greu amgylcheddau diogel a chynhwysol i bobl LHDTC+ o bob oedran. Yn dilyn cyflwyno Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb Cynhwysol yn llawn, bydd pob dysgwr hyd at 16 oed yn elwa ar gwricwlwm sy'n hyrwyddo dealltwriaeth, parch a dathlu amrywiaeth.

Mae set o adnoddau addysgol LHDTC+ wedi'i llunio ar gyfer addysgwyr yng Nghymru yn tynnu sylw at grewyr a storïwyr y mae eu gwaith yn cefnogi dysgu STEM mewn modd cynhwysol. Mae'r rhain yn cynnwys pobl greadigol sy'n gysylltiedig â Chymru‑fel Daf James, awdur cyfres y BBC Lost Boys and Fairies sy'n olrhain stori cwpl hoyw yn mabwysiadu bachgen ifanc yng Nghymru, sy'n rhan o strategaeth ehangach i gynyddu gwelededd pobl LHDTC+ ym maes dysgu ledled Cymru.

Mae Prifysgol De Cymru wedi cynnal LezDiff, gŵyl Ffilm a Chelfyddydau Lesbiaidd Ryngwladol Caerdydd, sy'n dathlu ac yn cynrychioli bywydau a gwaith menywod lesbiaidd, deurywiol a chwiar a phobl anneuaidd. Dod â blas rhyngwladol i fywyd diwylliannol Cymru. 

Rwyf yn falch o gefnogi digwyddiadau Pride lleol ledled Cymru – o'n dinasoedd i'n cymunedau gwledig lleiaf. Mae'r digwyddiadau hyn yn dod â phobl at ei gilydd, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn ein hatgoffa bod pobl LHDTC+ yn perthyn ym mhob man yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad aruthrol at y diwylliant amrywiol a bywiog yr ydyn ni i gyd yn ei fwynhau yng Nghymru heddiw.

Mae ein hamgueddfeydd, ein sefydliadau diwylliannol a'n cyrff treftadaeth yn parhau i daflu goleuni ar hanesion a straeon LHDTC+ mewn ffyrdd arloesol. Drwy arddangosfeydd, ymchwil a dehongli newydd, mae Cymru'n cydnabod y lle hanfodol sydd gan bobl LHDTC+ yn ein treftadaeth gyffredin. Mae Aberration yn un enghraifft o sefydliad sydd wedi cynnal cyfres o weithdai a digwyddiadau yn Aberystwyth drwy gydol y mis i ddathlu bywydau pobl gwiar.  Mae ‘Iris on the Move’ wedi gweld yr arddangosfa deithiol flynyddol gan Ŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris, gan ddod â ffilmiau byrion sydd wedi ennill gwobrau i leoliadau ledled Cymru, gyda sesiwn holi ac ateb gyda chyfarwyddwr yr ŵyl, Berwyn Rowlands.

Hoffwn gymryd eiliad i gofio bywyd Martyn Butler sydd, yn anffodus, wedi marw y mis hwn. Wrth gyd-sefydlu Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, nid yn unig gwnaeth Martyn adeiladu elusen — gwnaeth adeiladu llinyn bywyd i filoedd o bobl, ar adeg pan oedd stigma a thawelwch yn costio bywydau. Y mis hwn, a phob mis, rydyn ni'n dathlu cyfraniadau pobl LHDTC+ ym maes STEM ac ar draws pob sector. Mae eu harweinyddiaeth yn gwneud Cymru yn wlad fwy arloesol a mwy tosturiol.

Gyda'n gilydd, rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i adeiladu Cymru decach a mwy cynhwysol – un lle mae amrywiaeth nid yn unig yn cael ei chroesawu ond yn cael ei chydnabod fel rheswm dros ddathlu a llawenydd i bob un ohono ni, ac yn ein gwneud yn gryfach gyda'n gilydd.