Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bwrdd Dawnus Construction Ltd wedi cytuno i benodi gweinyddwyr ar gyfer y busnes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n glos â Dawnus, HSBC Bank a Banc Datblygu Cymru dros fisoedd lawer er mwyn osgoi'r penderfynid anffodus hwn gan Fwrdd Dawnus. Yn 2018, rhoddodd Llywodraeth Cymru fenthyciad masnachol i Dawnus er mwyn ei helpu â'i lif arian dros y tymor byr.

Er gwaethaf hyn a chais i'r farchnad fasnachol gyda chefnogaeth cynllun adfer, rwy'n deall nad yw Dawnus wedi llwyddo i gael hyd i unrhyw gymorth ariannol arall ar gyfer ei sefyllfa ariannol fregus ac nad yw chwaith wedi cael hyd i brynwr allai achub y cwmni.

Mae'r busnes yn cyflogi 700 o bobl ar nifer o safleoedd ledled y DU ac yn ei bencadlys yn Abertawe. Caiff y penderfyniad trist hwn effaith arwyddocaol hefyd ar fusnesau bach a chanolig yn y gadwyn gyflenwi.  Mae llawer o'r rheini'n fusnesau yng Nghymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Bwrdd Dawnus a'r gweinyddwyr i greu cronfa ddata o gredydwyr y busnes i'w dadansoddi i werthuso'r effaith lawn ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Rydyn ni'n barod i drefnu pecyn o gyngor ReAct, DWP a Gyrfaoedd Cymru i roi help i unigolion a chwmnïau y mae'r penderfyniad hwn wedi effeithio arnyn nhw.

Mae gan y cwmni nifer o gontractau byw â'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion, cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau seilwaith ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn adrannau Llywodraeth Cymru i gadw'r effaith mor fach â phosib.

Fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i helpu pob cwmni a gweithiwr.