Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r angen i brifysgolion sydd â’r capasiti a’r màs critigol i weithredu’n ddeinamig, yn effeithiol ac yn effeithlon yn egwyddor sydd wedi’i hen sefydlu ym mholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch.  Roedd Er Mwyn ein Dyfodol, ein strategaeth addysg uwch ar gyfer Cymru yn nodi’r angen am newid radical ar ffurf a strwythur addysg uwch yng Nghymru, a’r ddarpariaeth sydd ar gael.  Fy nod parhaus yw sicrhau bod y sector yn addas i’r diben ac wedi’i baratoi’n llawn i gwrdd â’r heriau fydd yn ei wynebu yn y dyfodol.  

 

Roedd Strategaeth Gorfforaethol CCAUC, a gymeradwywyd gan Gabinet Llywodraeth Cymru’n Un ar 21 Mehefin 2010, yn pennu’r nod y dylai 75% o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru gyrraedd y canolrif trosiant ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch Prydain, neu’n uwch, erbyn 2013.  Cyflwynais Ddatganiad Llafar i’r Cyfarfod Llawn ar sail hyn ar 29 Mehefin 2010.  Ym mis Rhagfyr 2010, dywedodd CCAUC eu bod yn ei gweld yn debygol y byddai chwe Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn y dyfodol.   

 

Yn ein maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai, roedd Llafur Cymru yn glir o’r farn ein bod am gael llai o Brifysgolion cryfach. 

 

Ym mis Mawrth eleni, gofynnais i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru (CCAUC) roi cyngor imi ar strwythur y sector addysg uwch yng Nghymru.  Mae’r Cyngor bellach wedi cyflwyno ei adroddiad, sy’n pennu argymhellion clir iawn ar gyfer dyfodol y sector.  I grynhoi, mae’r Cyngor yn argymell fel a ganlyn:

  • dylai Prifysgol Caerdydd barhau’n ymrwymedig i sicrhau ei safle fel prifysgol ymchwil o safon ryngwladol gan gydweithio, yn enwedig gydag Abertawe, mewn meysydd y byddent yn fwy effeithiol o wneud hynny, a chydweithio hefyd â’u cymdogion i sicrhau cydlyniaeth ranbarthol;
  • dylai Prifysgol Abertawe barhau â’i nod o ddatblygu i fod yn brifysgol ymchwil, a chryfhau partneriaethau ymchwil ac addysgu allweddol gyda Chaerdydd.  Mae CCAUC hefyd yn awgrymu y dylai Abertawe gryfhau’r cysylltiadau rhanbarthol o fewn strwythur arfaethedig newydd Y Drindod Dewi Sant/ Prifysgol Fetropolitan Abertawe; 
  • dylai Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ehangu a dwysáu eu partneriaeth strategol (gan gynnwys datblygu tuag at brosesau llywodraethu integredig), a datblygu cynllun hirdymor i uno;
  • dylai Prifysgol Glyndŵr ddatblygu perthynas strwythurol gref gyda nifer o golegau Addysg Bellach o fewn strwythur grŵp o dan arweiniad Prifysgolion Aberystwyth a Bangor, er mwyn ehangu ar y ddarpariaeth Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, a chael mwy o gydlyniaeth ranbarthol;
  • dylai Prifysgol Morgannwg, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd uno i greu prifysgol gwir ‘fetropolitan’ yn Ne-ddwyrain Cymru, fel sy’n bodoli mewn ardaloedd dinesig o faint tebyg ledled Prydain;
  • dylai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe uno fel sydd wedi’i gynllunio eisoes; o bosib, ond nid o angenrheidrwydd gyda Phrifysgol Cymru hefyd; a dylent gael mwy o gydlyniaeth ranbarthol gyda Phrifysgol Abertawe.

Mae argymhellion eraill hefyd yn adroddiad CCAUC sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Cymru ac addysg feddygol.

 

Rwyf wedi ystyried argymhellion CCAUC yn ofalus.  Maent yn seiliedig ar ddadansoddiad y Cyngor o gryfderau a gwendidau presennol y sector, a’i allu i weithredu’n effeithiol ac i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.  Rwy’n credu bod adroddiad CCAUC yn cyflwyno achos argyhoeddiadol dros newid, ac yn cynnig sail resymegol clir dros y strwythur a ffefrir sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor.  Rwyf felly o’r farn y dylem dderbyn cyfeiriad cyffredinol argymhellion CCAUC ar hyn o bryd. 

 

Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad CCAUC yn llawn, ac yn bwriadu gofyn am sylwadau dros yr haf gan randdeiliaid/y cyhoedd ar argymhellion y Cyngor.  Byddaf yn gwahodd pob rhanddeiliad sydd â diddordeb i gynnig sylwadau ar y dadansoddiad a’r argymhellion sydd yn yr adroddiad, cyn llunio barn bendant ar y strwythur mwyaf addas ar gyfer y dyfodol.  Cyn gwneud unrhyw benderfyniad a gorchymyn diddymu terfynol mewn perthynas â chorfforaeth addysg uwch unigol, byddwn yn ymgynghori ymhellach â’r sefydliadau yr effeithir arnynt. 

 

Roedd yn galonogol i glywed y newyddion heddiw bod cyrff llywodraethol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru yn cymryd camau proactif tuag at y strwythur a gafodd ei argymell gan CCAUC.  Byddaf yn ystyried y cynnig ochr yn ochr ac eraill yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd.