Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni ddechrau'r flwyddyn newydd, rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am weithgaredd Croeso Cymru, yn enwedig ymweliad gan 17 o gwmniau teithio dylanwadol o'r Unol Daleithiau, sydd ar hyn o bryd yn teithio o amgylch Cymru ac yn cyfarfod cyflenwyr. 

Dechreuodd Croeso Cymru y flwyddyn gyda phroffil uchel yn y Britain and Ireland Marketplace (BIM) 2024, digwyddiad busnes i fusnes rhyngwladol mawr yn Llundain yr wythnos ddiwethaf. Fel rhan o Showcase Britain VisitBritain, sy'n ychwanegiad at ddigwyddiad BIM, mae Croeso Cymru wedi gweithio gyda chydweithwyr yn VisitBritain i drefnu ymweliad cynefino pedwar niwrnod â Chymru gan 17 o gwmniau teithio amlwg o'r Unol Daleithiau. 

Mae cwmniau o'r Unol Daleithiau yn ymweld ag ystod eang o gyrchfannau, o Wrecsam i Dyddewi ac o Gaernarfon i Gaerdydd. Wrth iddynt deithio drwy Gymru, gan aros mewn rhai o'n gwestai gorau, byddant yn cynnwys rhai o brif leoliadau Cymru, a phob un ohonynt yn awyddus i ddatblygu eu busnes teithio rhyngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys Castell Conwy, Distyllfa Penderyn, Portmeirion, Halen Môn,Y Bathdy Brenhinol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Crochendy Nantgarw, Taith Pyllau Glo Cymru a Maenor Llancaiach Fawr.

Mae yn help i fusnesau rhyngwladol, sydd fel arfer yn golygu fod teithwyr yn aros am gyfnod hwy ac yn golygu gwariant uwch o gymharu a busnesau twristiaeth ddomestig, gael eu cynnwys o fewn rhaglenni cwmniau teithio. Yn ystod y daith bydd y cwmniau yn cwrdd â 30 o gyflenwyr o Gymru, rhai ohonynt wedi mynychu BIM o dan ymbarél Croeso Cymru, i edrych ar gyfleoedd busnes.

Daw hyn i gyd ar adeg pan fo gweithgaredd marchnata defnyddwyr Croeso Cymru wedi'i raglennu i sicrhau fod Cymru yn flaenllaw ym meddyliau darpar ymwelwyr sy'n dechrau ystyried eu gwyliau ar gyfer 2024. Lansiwyd ymgyrch Awydd Antur ar Ŵyl San Steffan. Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael cyfle i weld yr hysbyseb newydd, boed hynny ar y teledu, y cyfryngau cymdeithasol neu mewn lleoliadau amlwg yn Llundain.