Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad fod holl ddarpariaethau Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 bellach wedi dod i rym .

Cafodd y Ddeddf ei chyflwyno ar 1 Ebrill 2013, gan dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014. Daeth gweddill y darpariaethau i rym ar 1 Medi 2014. Ei phrif nod oedd diddymu gofynion diangen neu dechnegol sydd ar sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. O wneud hynny, rhagwelir y bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol unwaith eto yn rhoi statws ‘Sefydliadau Di-elw sy’n Gwasanaethu Aelwydydd’ i golegau Cymru, a bydd cais ffurfiol yn gofyn am ailddosbarthu’r colegau hyn yn cael ei gyflwyno yn awr  i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Daeth Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig (Cymru) 2014 hefyd i rym ar 1 Medi 2014. Roedd hynny’n dilyn cynnal ymgynghoriad manwl â’r prif randdeiliaid yn gynharach eleni. Mae’n dda gennyf ddweud bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw wedi dangos bod cefnogaeth eang i’r Rheoliadau drafft, gyda dim ond mân ddiwygiadau yn cael eu hawgrymu gan y sector. Cyhoeddwyd adroddiad cryno, ac mae hwnnw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r Rheoliadau’n nodi’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i gorfforaethau eu dilyn pan ystyrir eu diddymu, gan ragnodi y ceir trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau i gyrff cyhoeddus penodol at ddibenion addysg.  

Er mwyn cryfhau perthynas Llywodraeth Cymru â’r sector ymhellach, gan ei helpu i ymaddasu i’r dirwedd newydd a fydd yn bodoli yn sgil y Ddeddf, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gomisiynu gwaith i ddatblygu fframwaith newydd yn seiliedig ar yr arferion gorau, sef y Cod Llywodraethu Addysg Bellach. Caiff hwnnw ei ddatblygu drwy gydweithio’n agos â rhanddeiliaid yn y sector. Bwriedir cyhoeddi’r cod newydd yn y gwanwyn 2015 er mwyn sicrhau y bydd dull gweithredu cyson yn cael ei ddefnyddio ar draws y sector Addysg Bellach yng Nghymru.

At hynny, rwyf hefyd wedi comisiynu gwaith i ddatblygu rhaglen flaengar er mwyn datblygu’r proffil arweinyddiaeth sydd gennym yma yng Nghymru ymhellach, gan gryfhau gallu Prif Weithredwyr a Phenaethiaid y dyfodol drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr Addysg Bellach yn eu datblygiad, fel unigolion ac yn eu sefydliadau. Bydd y rhaglen flaengar hon yn cael ei threialu’r gwanwyn nesaf, yn sgil cynnal proses gaffael gystadleuol.

Bydd y rhyddid a’r hyblygrwydd newydd yn helpu i feithrin perthynas newydd â Llywodraeth Cymru, gan nodi dechrau cyfnod newydd lle bydd mwy o ryddid i’r sector. Fodd bynnag, bydd Gweinidogion Cymru yn cadw’r pŵer i ymyrryd o dan amgylchiadau eithriadol.

Bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu, mewn ffordd adeiladol, â rhanddeiliaid allweddol y sector addysg bellach.