Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Mae'r sector trydyddol yng Nghymru yn gweithio'n gyson i gynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr. Rwyf am gydnabod ymdrechion rhagorol ein darparwyr a llwyddiant y dysgwyr yn y sector hwn. Mae'r profiadau cadarnhaol y mae'r mwyafrif llethol o ddysgwyr yn eu mwynhau yn adlewyrchu'r ymrwymiad a'r proffesiynoldeb a welir ledled Cymru.
Serch hynny, mae'n bwysig cydnabod y gall materion godi ar adegau sy'n rhoi lle i ddysgwyr gwyno. Felly, mae'n hanfodol bod pob dysgwr yn ymwybodol o'r gweithdrefnau priodol ar gyfer cwyno, a phan nad oes modd datrys y materion yn lleol, bod dysgwyr yn gallu troi at gorff annibynnol i'w hystyried ymhellach.
Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yw gweithredwr dynodedig y cynllun cwynion myfyrwyr. Ar hyn o bryd, mae'r Swyddfa honno ond yn adolygu cwynion sydd heb eu datrys sy'n dod oddi wrth ddysgwyr addysg uwch. Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022'), mae ynddi ddarpaiaeth sy'n galluogi ymestyn cwmpas y cynllun hwn i gynnwys unigolion sy'n astudio cyrsiau addysg bellach a'r rhai sy'n ymgymryd â phrentisiaethau.
Mae adran 128 o Ddeddf 2022 yn diwygio adran 11 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu darparwyr cymwys ychwanegol ar gyfer cynllun Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol. Bydd adran 128 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026 drwy Orchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 7, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2026, a wnaed gennyf yn gynharach yn y mis.
Mae'r datblygiad hwn yn estyn y cyfle i fwy o ddysgwyr gael datrysiad i'w cwynion, ac mae'n cynrychioli budd sylweddol i ddysgwyr nad yw ar gael ar hyn o bryd i ddysgwyr addysg bellach a phrentisiaid. Rwy'n credu'n gryf y bydd yn helpu i ysgogi dull mwy tryloyw, cyson a theg o ymdrin â chwynion o fewn sector addysg drydyddol Cymru.
Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at ddarparwyr addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol yn nodi'r dull a'r amserlen arfaethedig ar gyfer gweithredu'r newid hwn yng Nghymru. Mae ymgynghoriad wedi'i gynllunio ar gyfer Hydref 2026, gyda'r bwriad y bydd rheoliadau yn dod i rym ym mis Awst 2027. Rhagwelir y bydd yr Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn dechrau cael cwynion gan ddysgwyr addysg bellach a phrentisiaid o 1 Medi 2027.
Mae adborth gan randdeiliaid allweddol wedi helpu i lunio'r dull a'r amserlen ar gyfer gweithredu. Bydd Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn derbyn cymorth i baratoi cyn ei weithredu. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr addysg bellach a phrentisiaethau, yn ogystal ag ymgysylltu â dysgwyr a'u rhieni/gofalwyr i sicrhau bod gweithdrefnau cwyno yn gwbl hygyrch ac yn diwallu anghenion pob dysgwr.
Mae'r goblygiadau ariannol i ddarparwyr sy'n deillio o'r estyniad hwn yn cael eu hadolygu'n ofalus ar hyn o bryd fel rhan o'r strategaeth weithredu ehangach. Fodd bynnag, rhaid i'r penderfyniadau terfynol ynglŷn â hyn orffwys gyda'r llywodraeth newydd yn nes at gyfnod ei weithredu.
