Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos yn glir mor ofalgar ac ymroddedig yw pobl pobl yng Nghymru wrth ofalu am ei gilydd.

Mae'r pandemig, ynghyd â'r mesurau iechyd cyhoeddus sydd wedi'u cyflwyno i ddiogelu iechyd pobl, wedi cael effaith ddofn ar fywydau pobl, gan gynnwys, ar adegau, eu gallu i gael gafael ar yr ystod lawn o ofal a chymorth sydd ar gael fel arfer. Mae coronafeirws hefyd wedi rhoi pwysau a galwadau ychwanegol ar ofalwyr a theuluoedd di-dâl. 

Rydym yn adolygu'r holl fesurau a gyflwynwyd i'n helpu i reoli'r pandemig yn gyson. Ddiwedd y llynedd, gofynnais i'm swyddogion ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch a ddylid cadw Adran 15 o Ddeddf Coronafeirws 2020 a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi. 

Mae'r darpariaethau hyn yn addasu dyletswyddau penodol awdurdodau lleol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion o dan Rannau 3 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’). 

Cafwyd bron i 100 o ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Roedd tua dwy ran o dair o blaid atal y darpariaethau.

Gan ymateb i'r safbwyntiau hynny, rwy'n hysbysu Aelodau'r Senedd o'm bwriad i atal adran 15 a Rhan 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Coronafeirws 2020 ar 22 Mawrth 2021. Mae'r rheoliadau sy'n angenrheidiol i atal y darpariaethau hyn yn dilyn y broses "dim gweithdrefn" a byddant yn dod i rym yn fuan ar ôl y dyddiad y cânt eu gwneud. 

Mynegwyd pryderon ynghylch darpariaethau Deddf 2020 a'u heffaith ar unigolion. Nid yw'r addasiadau o fewn Deddf 2020 erioed wedi rhoi awdurdod i rwystro, cyfyngu na thynnu gwasanaethau yn ôl. Eu diben oedd galluogi awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau dros dro am ofal a chymorth -  penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ei hun – yn ystod y pandemig a sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael blaenoriaeth gan ddefnyddio egwyddorion cyffredinol a gwerthoedd craidd gofal cymdeithasol. 

Roedd y darpariaethau'n sicrhau, pe bai wedi dod yn angenrheidiol, y gellid gwneud penderfyniadau anodd yn fwy effeithiol nag y gellid bod wedi'i wneud o dan Ddeddf 2014 cyn ei haddasu. 

Nid oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweithredu darpariaethau Deddf 2020, er bod addasiadau wedi’u gwneud i ofal a'u cymorth nifer o unigolion oherwydd effaith y pandemig ar staffio ac adnoddau hanfodol eraill. Cafodd rhai o’r addasiadau eu gwneud ar gais yr unigolion eu hunain. Mae'n dyst i ymrwymiad ac ymroddiad yr arweinyddiaeth a'r gweithlu nad yw awdurdodau lleol wedi gorfod gweithredu'r darpariaethau ac mae'n dystiolaeth bellach o'r ymateb anhygoel a gafwyd gan bawb yn y sector gofal cymdeithasol. 

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi sicrhau bod dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb wedi aros yn ddigyfnewid, yn ogystal â dyletswyddau i ystyried y confensiynau a'r egwyddorion perthnasol sy'n ymwneud â hawliau dynol, pobl hŷn a phobl anabl.

Cafodd trafodaethau a phenderfyniadau yn ymwneud â gofal a chymorth eu cefnogi a'u llywio gan y Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (dolen allanol, Saesneg yn unig).

Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol barhau i sicrhau bod trefniadau gofal a chymorth yn gynaliadwy. Nid yw gallu pobl i ymdopi yn ystod cyfnod o argyfwng yn arwydd eu bod yn gallu darparu gofal a chefnogaeth am gyfnodau hir. Rhaid i awdurdodau lleol barhau i sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir gan unigolion a'u teuluoedd o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer penderfynu a ddylid diwallu anghenion ar gyfer y dyfodol ai peidio.

Lle bu angen addasu gofal a/neu gymorth, ni ddylai'r cyfrifoldeb fod ar unigolion na'u teuluoedd i sicrhau bod eu gofal a'u cymorth yn cael eu hadfer.