Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mai 2015, dechreuodd Llywodraeth Cymru ymgynghori’n ffurfiol ynghylch yr ail gyfres o reoliadau, codau ymarfer a chanllawiau statudol i gael eu gwneud dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori ar 31 Gorffennaf 2015, mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau Cynulliad am y cynnydd hyd yma, mae’n amlygu gweithgarwch sydd ar ddod ac yn hysbysu aelodau ynghylch y cymorth cyfathrebu yr ydym yn trefnu iddo fod ar gael.

Roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin â phedair rhan o’r Ddeddf – yn benodol rhannau 5 (Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol), 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael Eu Lletya), 9 (Cydweithrediad a Phartneriaeth) a 10 (Gwasanaethau Eirioli) – yn unol â’r dull gweithredu a nodwyd gan y Cyn-Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas AC yn ei datganiad ysgrifenedig ar 16 Gorffennaf 2014.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori o 12 wythnos, cynhaliwyd dau ddigwyddiad, a oedd yn cynnwys dros 200 o gynrychiolwyr o ystod eang o gyrff rhanddeiliaid ledled Cymru. Cafwyd dros 200 o ymatebion ysgrifenedig sylweddol i’r ymgynghoriad oddi wrth gymysgedd eang o unigolion, grwpiau cynrychiadol, sefydliadau llywodraeth leol a sefydliadau proffesiynol.

Roedd yr adborth cyffredinol yn gadarnhaol gyda’r ymatebwyr yn gefnogol ar y cyfan i egwyddorion a manylion y rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau statudol drafft. Bydd manylion pellach ynghylch y rhain ar gael yn yr adroddiadau cryno ar yr ymgynghoriad a fydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

O ganlyniad i’r ymgynghoriad mae nifer o newidiadau allweddol wedi cael eu gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ychwanegu pennod newydd ar adfer dyledion at y cod dan ran 5 ynghylch codi ffioedd ac asesiadau ariannol.
  • Creu gofyniad newydd yn y rheoliadau dewis llety (dan ran 5) sy’n golygu, lle na ellir cydymffurfio â dewis person o ran y cartref gofal sydd orau ganddo, bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ei hysbysu ynghylch y rheswm penodol dros hyn.
  • Defnyddio terminoleg fwy eglur yn y rheoliadau cynllunio gofal a lleoli, mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth, ac yn y cod dan ran 6 ynghylch plant sy’n derbyn gofal, mewn perthynas ag adolygu cynlluniau a’u perthynas â chynlluniau eraill.
  • Newid y patrwm cydweithredu rhanbarthol dan ran 9 i sefydlu bwrdd partneriaeth ar wahân ar gyfer Powys, a hwnnw’n cwmpasu’r awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a phartneriaid lleol allweddol.
  • Mireinio darpariaethau yn y cod dan ran 10 ynghylch eiriolaeth o ran pryd y mae’n rhaid i awdurdod lleol ddarparu eiriolaeth broffesiynol annibynnol a chynnwys cyfeiriad at eiriolaeth ym mhob un o’r codau a’r canllawiau statudol a gynhyrchir dan y Ddeddf.

Mae’r rheoliadau diwygiedig yng nghyfres 2 a’r codau ymarfer terfynol ar gyfer rhannau 2 (Swyddogaethau Cyffredinol), 3 (Asesu Anghenion Unigolion), 4 (Diwallu Anghenion), 5 (Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol), 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael Eu Lletya), 10 (Cwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli) ac 11 (Amrywiol a Chyffredinol) o’r Ddeddf wedi cael eu gosod gerbron y Cynulliad erbyn hyn er mwyn iddo graffu arnynt. Byddaf hefyd yn cyhoeddi canllawiau statudol ynghylch rhannau 7 (Diogelu) a 9 (Cydweithrediad a Phartneriaeth) yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r rheoliadau a’r codau ymarfer, fel y’u gosodwyd, i’w gweld yma:
http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?category=Laid Document

Bydd y rhain, ynghyd â’r cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol – a osodwyd gerbron y Cynulliad ym mis Mehefin ac a gyhoeddwyd wedyn ar 5 Hydref – yn cwblhau’r fframwaith deddfwriaethol dan y Ddeddf yn sylweddol ac yn darparu cryn dipyn o’r manylion sy’n ofynnol er mwyn ei gweithredu. Mae’r cod ymarfer terfynol mewn perthynas â rhan 8 o’r Ddeddf (rôl Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol) yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd – sy’n dod i ben ar 4 Rhagfyr – a bydd yn cael ei osod gerbron y Cynulliad yn gynnar yn 2016, ynghyd â rheoliadau mewn perthynas â diwygiadau canlyniadol.

Ni ellir gweithredu’r Ddeddf trwy wneud deddfwriaeth yn unig. Rydym yn dibynnu ar ystod o bartneriaid allweddol i ddarparu’r arweinyddiaeth genedlaethol a rhanbarthol sy’n ofynnol i gyflawni’r Ddeddf ar lawr gwlad. Gan weithio gyda’n partneriaid uniongyrchol – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chyngor Gofal Cymru – rydym wedi paratoi datganiad cydweithredol, Cyflawni’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae hwn yn nodi’r prif weithgareddau y bydd pob partner yn eu cyflawni dros y misoedd nesaf i symud y rhaglen weithredu genedlaethol yn ei blaen. Mae’r dull hwn o weithio ar y cyd yn dangos ymrwymiad pob partner i sicrhau bod y Ddeddf yn sicrhau gwasanaethau cymdeithasol gwell, mwy cynaliadwy i bobl Cymru.

Rwyf wedi rhoi cymorth ariannol i’r chwe chydweithredfa weithredu ranbarthol dros y tair blynedd ddiwethaf, trwy’r Grant Trawsnewid (£3m yn 2015-16), er mwyn iddynt fod â’r capasiti i lunio cynlluniau gweithredu a gwneud paratoadau i gyflawni’r dyletswyddau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf o 6 Ebrill 2016. Mae gan bob cydweithredfa ranbarthol gynlluniau gweithredu manwl, ac maent yn gweithio gyda’i gilydd, gyda chymorth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau dulliau gweithredu cenedlaethol cyson mewn meysydd cyflawni allweddol.

Mae Cyngor Gofal Cymru yn cyflawni’r Strategaeth Dysgu a Datblygu Genedlaethol ar gyfer y Ddeddf a ariennir trwy ddyraniad o £1m o Raglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2015-16, gyda £7.1m yn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol er mwyn paratoi eu gweithluoedd ar gyfer cychwyn y Ddeddf. Fel rhan o’r strategaeth hon mae’r Cyngor Gofal yn paratoi ar gyfer cyflwyno deunyddiau dysgu pwrpasol ar y Ddeddf i’r holl bartneriaid i gefnogi’r broses o raeadru hyfforddiant o fewn y rhanbarthau o fis Ionawr 2016. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan Hyb Gwybodaeth a Dysgu y Cyngor Gofal – siop-un-stop hygyrch ar gyfer gwybodaeth ac adnoddau mewn perthynas â’r Ddeddf, gan gynnwys y datganiad cydweithredol.

Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi set o ddogfennau briffio technegol sy’n crynhoi’r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol a’u partneriaid statudol gan y Ddeddf i ategu’r ffeithluniau ar themâu penodol ar gyfer grwpiau rhanddeiliaid allweddol sydd eisoes mewn cylchrediad. Mae dau ddigwyddiad gwybodaeth pwysig i randdeiliaid yn cael eu cynnal y mis hwn hefyd, y naill yng Ngogledd Cymru a’r llall yn Ne Cymru.

Un o’r negeseuon allweddol a amlygwyd trwy’r gwaith ymgynghori fu’r angen i gyfleu’r newidiadau y bydd y Ddeddf yn eu gwneud i’r cyhoedd. I’r perwyl hwn, bydd rhaglen genedlaethol i godi ymwybyddiaeth dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn dechrau ym mis Ionawr 2016, ac yn cael ei rhagflaenu gan gyhoeddiad cryno hygyrch a ddatblygwyd ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau am y gefnogaeth a roddwyd o ran gwneud y newidiadau sy’n ofynnol i wella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Gan gael mewnbwn gan y fforwm partneriaeth, y grŵp arwain a’r panel dinasyddion cenedlaethol, byddaf yn parhau i sicrhau bod pob agwedd allweddol ar Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru yn cael ei chyflawni gan gydarweinyddiaeth gref o du llywodraeth leol, y GIG a phartneriaid yn y sector preifat a’r trydydd sector, a bod pobl ac arnynt angen gofal a chymorth yng Nghymru’n dal i fod yn ganolog i’n rhaglen ar gyfer newid.