Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Tachwedd gosodais saith cod ymarfer a fydd yn cefnogi’r awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a ddaw i rym ar 6 Ebrill 2016. Heddiw rwyf yn cyhoeddi’r codau hynny, ynghyd â chanllawiau statudol o dan Ran 9 o’r Ddeddf ar gydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Ar yr un pryd, mae’r fframwaith statudol wedi cael ei gwblhau yn sylweddol yn sgil gwneud y prif reoliadau sy’n weddill o dan y Ddeddf ynghylch codi tâl ac asesu ariannol, plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi’u lletya a chydweithredu a phartneriaeth.

Rydym wedi cyrraedd carreg filltir ar gyfer cyflawni’n gweledigaeth ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru: gwasanaethau cymdeithasol sy’n gynaliadwy; sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau llesiant; sy’n fwy ataliol eu natur; sy’n cael eu darparu ar y cyd ac sy’n hyrwyddo llais a rheolaeth y dinesydd.

Mae’n rhaid i ni nawr gydweithio i roi’r dull yma ar waith.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.