Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Atodlen 1 i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA) yn darparu na fydd yr egwyddorion cydnabod cydfuddiannol a diffyg gwahaniaethu o dan Ran 1 o UKIMA yn effeithio ar gymhwyso cyfyngiadau a gofynion deddfwriaethol penodol. Mae adran 10 o UKIMA yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio Atodlen 1 drwy offeryn statudol (OS). Er enghraifft, gweithredu cytundeb sy'n rhan o gytundeb Fframwaith Cyffredin ac sy'n darparu y dylid eithrio achosion, materion, gofynion neu ddarpariaeth benodol o gymhwyso egwyddorion mynediad i'r farchnad.

Ar 9 Mehefin, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Reoliadau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Gwaharddiadau o Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad: Plastigau Untro) 2022 ("yr OS gwahardd") gan ddefnyddio'r pwerau o dan adran 10 o UKIMA. Mae'r gwaharddiad OS yn eithrio wyth eitem blastig untro (gwellt, troellwyr, platiau, cyllyll a ffyrc, ffyn balŵn, cynwysyddion bwyd a chwpanau polystyren estynedig a ffyn cotwm) o egwyddorion mynediad i'r farchnad o dan UKIMA. Yn unol ag adran 10 o UKIMA, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi gofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud y gwaharddiad OS.

Gofynnodd Llywodraeth yr Alban am y gwaharddiad i gefnogi eu rheoliadau i wahardd nifer o eitemau plastig untro. Bwriedir i Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Yr Alban) 2021 ddod i rym ar 1 Mehefin 2022. Dylai'r OS Gwahardd ddod i rym mor agos â phosibl i'r dyddiad hwn.

O ystyried y cyfyngiadau amser, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad yn nodi fy mwriad i gydsynio i osod yr OS gwahardd.

Rwy'n ymwybodol na wnaeth y Senedd gydsynio i wneud UKIMA ei hun. Mae'r Ddeddf, sydd wedi'i gorfodi ar Gymru gan Senedd y DU, yn honni ei bod yn cyfyngu ar allu'r Senedd i ddeddfu mewn materion datganoledig. Mae hyn yn rhywbeth na allwn ei dderbyn ac rydym wedi nodi ein gwrthwynebiadau mewn her gyfreithiol.

Wrth gydsynio i'r OS gwahardd, nid yw ein safbwynt o ran UKIMA wedi newid. Nid ydym yn credu bod UKIMA yn cael yr effaith ar gymhwysedd y Senedd y mae'n honni ei chael. Fodd bynnag, gan nad yw ymgyfreitha UKIMA rhwng llywodraethau Cymru a'r DU wedi dod i ben eto, rydym yn cydnabod y gallai fod o fudd i ni gydweithredu â'r broses wahardd. Nid yw hyn yn amharu ar yr ymgyfreitha. Ar y sail hon, rwyf wedi cydsynio i'r OS gwahardd.

Mae maint yr argyfwng natur a hinsawdd yn golygu bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i'n hamgylchedd. Mae gennym gyfnod byr i weithredu ynddi. Cyn bo hir, byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth Gymreig i wahardd nifer o eitemau plastig untro sy'n cael eu taflu'n aml ac mae gennyf uchelgais i fynd ymhellach. Ni ellir dal y Senedd yn ôl rhag cymryd camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r heriau hyn a diogelu amgylchedd Cymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.