Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 21 Mawrth 2022, ymunodd Cymru â mwy na 60 o genhedloedd ar draws y byd i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Roedd hyn yn cyflawni ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu ac yn nodi carreg filltir hanesyddol i blant a'u hawliau yng Nghymru.

Nod cyffredinol Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yw helpu i ddiogelu hawliau plant. Mae'n diogelu plant yng Nghymru rhag ymosodiadau yn yr un modd ag oedolion, ac mae'n golygu bod cosbi plant yn gorfforol yn cael ei wahardd ym mhob lleoliad yng Nghymru.

Cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, cynhaliwyd ymgyrch gyfathrebu ac ymgysylltu amlgyfrwng ledled Cymru er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn ymwybodol o'r newid yn y gyfraith. Rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o'r gyfraith ac wedi darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni am ddewisiadau amgen cadarnhaol yn lle cosbi corfforol, drwy ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo, a fydd yn eu helpu i adeiladu perthynas gariadus â'u plentyn sy’n seiliedig ar barch ar y ddwy ochr.

Rydym hefyd wedi gweithio gyda Plant yng Nghymru i ddatblygu a chyhoeddi adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, i'w cefnogi i gyfathrebu â phlant am y gyfraith mewn modd priodol a sensitif.

Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2025 mae hyd at £2.4m o gyllid wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol i ariannu cymorth rhianta y tu allan i'r llys fel dewis adsefydlu arall yn lle erlyniad. Nod y cymorth hwnnw yw annog a chefnogi rhieni i fabwysiadu technegau rhianta cadarnhaol, gan ei gwneud yn glir bod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau.

Ar 21 Mawrth 2025, bydd yn dair blynedd ers i'r ddeddfwriaeth arwyddocaol hon ddod i rym. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein taith, ac yn gyfle i ystyried y cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yn hyn. 

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi adroddiadau ar effaith y newidiadau i'r gyfraith - tair a phum mlynedd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym. Mae'r meysydd y bydd yr adolygiadau yn ymdrin â nhw eisoes wedi cael eu cytuno; ac maent yn cynnwys yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus; ymwybyddiaeth o'r gyfraith ac agweddau at gosbi corfforol; a barn a phrofiadau rhanddeiliaid. 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws ystod o sectorau i bennu trefniadau i fesur effaith y ddeddfwriaeth, drwy gasglu data a monitro priodol.

Bydd yr adolygiad interim tair blynedd yn dwyn ynghyd y data a'r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Felly, gan ddarparu ar gyfer casglu a dadansoddi'r data, fy mwriad yw y bydd adroddiad ar yr adolygiad ôl-weithredu yn cael ei osod gerbron y Senedd cyn diwedd 2025.