Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ar 21 Mawrth 2025 roedd yn dair blynedd ers i Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 ddod i rym. Roedd hyn yn gyfle pwysig i fyfyrio ar y daith hyd yma a'r cynnydd a wnaed wrth roi'r ddeddf nodedig hon ar waith.
Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau ôl-weithredu dair a phum mlynedd ar ôl iddi ddod i rym. Mae'n bleser gennyf osod gerbron y Senedd a chyhoeddi heddiw ein dogfen, Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: Tystiolaeth a Synthesis Data sy'n darparu ein hadolygiad tair blynedd.
Mae'r adolygiad yn tynnu ar ystod amrywiol o ffynonellau data ac ymchwil i ddarparu dealltwriaeth gadarn a chynhwysfawr o weithredu'r Ddeddf ledled Cymru.
Mae canfyddiadau'r adolygiad yn galonogol. Maent yn dangos bod gweithredu'n mynd rhagddo'n dda ac yn bennaf fel y bwriadwyd, gan gefnogi'r nod creiddiol o gynnal hawliau plant ac ar yr un pryd hyrwyddo dull gweithredu addysgol ac ataliol sy'n osgoi gwneud rhieni yn droseddwyr. Mae Cymru wedi cymryd cam sylweddol a blaengar o ran amddiffyn hawliau plant, ac mae'r newid oddi wrth gosb gorfforol yn cael ei adlewyrchu fwyfwy yn agweddau'r cyhoedd, arferion proffesiynol ac wrth ddarparu gwasanaethau.
Mae'r adolygiad yn nodi rhai meysydd lle byddai gwaith pellach o fudd. Wrth edrych ymlaen at yr adolygiad pum mlynedd, byddwn yn ystyried lle gallwn gymryd rhai camau ychwanegol o ran cynnal gwaith ymchwil pellach, cymorth i'r gweithlu, a chysondeb data i gryfhau ein dull gweithredu.
Mae'r adolygiad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad gweithwyr proffesiynol a theuluoedd ledled Cymru i roi hawliau plant wrth wraidd polisi, ymarfer a rhianta.
