Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Mae'r Ddeddf yn sail i fframwaith statudol newydd ar gyfer rheoleiddio ac archwilio gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Caiff rheoliadau o dan y Ddeddf eu datblygu mewn camau, drwy ymgynghori ac ymgysylltu gyda’r prif randdeiliaid.

Tua diwedd mis Tachwedd, roedd yn bleser gallu diweddaru Aelodau'r Cynulliad ynghylch y gwaith o weithredu’r Ddeddf. Roedd y diweddariad hwnnw’n cyd-daro â chyhoeddi Adroddiad Cryno yr Ymgynghoriad ar gam cyntaf y rheoliadau, ynghyd â gosod y rheoliadau hynny sy'n rhoi effaith i system newydd o reoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol gerbron y Cynulliad. Y bwriad yw y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhoi’r system newydd hon ar waith o fis Ebrill 2017 ymlaen.

Roeddwn yn falch o dderbyn cymeradwyaeth gan y Cynulliad i lunio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") 2016 a Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016 yr wythnos hon. Gyda’r ddwy set olaf hyn o reoliadau wedi’u llunio, mae'r brif is-ddeddfwriaeth a fydd yn sail gadarn i weithredu'r system o reoleiddio'r gweithlu o dan y Ddeddf bellach yn ei lle.

Mae hyn yn ategu'r paratoadau i sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n datblygu'n gyflym er mwyn sicrhau bod y sefydliad newydd yn weithredol o fis Ebrill 2017, yn unol â’r bwriad. Ar ôl cynnal ymarfer recriwtio llwyddiannus lle daeth 178 o geisiadau i law, cynhaliwyd rownd gyntaf y cyfweliadau ar gyfer penodi aelodau i Fwrdd newydd Gofal Cymdeithasol Cymru yr wythnos ddiwethaf. Dyddiad cau ymgynghoriad y Cyngor Gofal ynghylch y Rheolau ar gyfer gweithredu Gofal Cymdeithasol Cymru'n llwyddiannus oedd 24 Hydref. Yn gyffredinol, roedd ymatebion yr ymgynghoriad yn rhoi sêl eu bendith i'r Rheolau arfaethedig ac mae'r Cyngor Gofal wrthi’n llunio’r fersiwn derfynol cyn eu cyflwyno erbyn 3 Ebrill 2017.

Rydyn ni hefyd yn gwneud cynnydd da gyda'n grwpiau technegol ar gyfer yr ail gam i ddatblygu ein cynigion ar gyfer rheoleiddio’r sectorau gofal cartref a gofal preswyl. Drwy gynnal cyfres o sesiynau ar gyfer y grwpiau technegol rydyn ni wedi clywed gan gynrychiolwyr rhanddeiliaid a'r rheoleiddiwr ynghylch amrywiaeth eang o agweddau ar y ddeddfwriaeth ddrafft, gan gynnwys y gofynion i'r gwasanaethau a’r oedolion cyfrifol. Rwyf yn hyderus y bydd y broses hon yn arwain at ddatblygu cynigion cadarn ar gyfer rheoleiddio’r sectorau hyn er mwyn ymgynghori arnynt y flwyddyn nesaf. Y bwriad yw gosod y rheoliadau terfynol gerbron y Cynulliad yn nhymor yr hydref 2017, a fydd yn galluogi’r gwasanaethau i gofrestru o fis Ebrill 2018 ymlaen a chaniatáu i’r system newydd o reoleiddio ac archwilio'r gwasanaethau hyn ddod i rym o fis Ebrill 2019 ymlaen.

Mae'r gwaith ymgysylltu manwl hwn a wnaed gyda rhanddeiliaid ar draws y sector gofal cymdeithasol wedi bod yn werthfawr mewn dwy ffordd. Ynghyd â chefnogi'r gwaith o ddatblygu dull cadarn o reoleiddio'r sectorau gofal cartref a gofal preswyl, mae hefyd wedi bod o gymorth i ni wrth ystyried a nodi’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â chael un dull cyffredin o reoleiddio ac archwilio ar draws yr ystod eang o wasanaethau sy'n rhan o ofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd yr adborth a gawsom gan aelodau'r grwpiau hynny, o'r sectorau mabwysiadu, maethu, llety diogel i blant, lleoliadau oedolion (Cysylltu Bywydau) ac eiriolaeth, yn datgan bod angen neilltuo rhagor o amser er mwyn pennu, ystyried a llunio rheoliadau ar gyfer eu gofynion arbennig.

Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sefydlu system gadarn ar gyfer rheoleiddio ac archwilio gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dylai’r system hon fod yn un sydd ar un law wedi'i seilio ar safonau craidd cyffredin, ond sydd ar y llaw arall yn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion penodol y gwahanol sectorau. Rwyf yn cydnabod y bydd angen gwneud gwaith ymgysylltu pellach a rhoi rhagor o amser i'r sectorau hyn. Am y rheswm hwn, rwyf wedi penderfynu y dylid symud i fodel gweithredu tri cham, a symud y gwasanaethau mabwysiadu, maethu, llety diogel i blant, lleoliadau oedolion (Cysylltu Bywydau) ac eiriolaeth o'r ail gam i'r trydydd. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gydweithio i ddatblygu system reoleiddio ar gyfer y sectorau hyn fydd yn adeiladu ar y safonau craidd cyffredin a fydd yn deillio o’r ail gam, ond a fydd hefyd yn cydweddu’n llawn ag anghenion y sectorau dan sylw. Ar hyn o bryd, rwyf yn rhagweld mai dim ond effaith fechan a gaiff y newid hwn i’r camau ar yr amserlen gyffredinol ar gyfer rhoi'r system ar waith. Yn hytrach na'i gwneud yn ofynnol i wasanaethau mabwysiadu, maethu, llety diogel i blant, lleoliadau oedolion (Cysylltu Bywydau) ac eiriolaeth gofrestru neu ail-gofrestru erbyn mis Ebrill 2019, o dan y gofynion newydd ni fydd angen iddynt gofrestru neu ail-gofrestru tan ar ôl fis Ebrill 2019 pan fydd gofyn iddynt wneud hynny o fewn cyfnod pontio o nifer penodol o fisoedd. Credaf y byddai'r newid hwn yn cael ei groesawu gan ddarparwyr y gwasanaethau hyn wrth iddynt gael trefn ar y gwaith o gofrestru a gweithredu o dan y trefniadau newydd.

Mae hefyd yn fwriad gen i i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â throsolwg o’r farchnad a sefydlogrwydd y farchnad yn ystod y trydydd cam. Bydd hyn yn golygu y gallwn ddysgu o'r dull a ddefnyddiwyd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal i weithredu darpariaethau tebyg yn Lloegr, o’r gwaith o gyflwyno’r gofyniad i ddarparwyr gofal cartref a gofal preswyl gofrestru o dan y Ddeddf, ac o unrhyw wybodaeth bellach o'r farchnad a ddaw i'r amlwg yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hefyd yn gyfle i ystyried sut y bydd adroddiadau o sefydlogrwydd y farchnad yn cyd-fynd â'r fframwaith ehangach o ran yr asesiadau o anghenion y boblogaeth a'r cynlluniau ardal o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.